Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEIRI DRAMA CYN OES SHAKESPEARE GAN R. WALLIS EVANS III. Y Seithwyr Da-eu-Gair 1. Gellir cyfrif y blynyddoedd 1584-94 ymhlith y blynyddoedd mwyaf arwyddocaol yn hanes y ddrama Saesneg cyn cyfnod Shakespeare. Y mae llawer o nodweddion yn cyfrif am hyn, ond y mae dwy yn wir bwysig, y naill ei fod yn gyfnod o arbrofion diddorol, a'r llall fod y ddrama, yn herwydd hynny, wedi ei chodi i safon llenyddiaeth. 2. Cysylltir y cyfnod yn arbennig â seithwyr-bron na ddywed- wn da-eu-gair. Gelwir hwy weithiau The University Wits, am eu bod yn ddynion o ddysg a aeth ati i sgrifennu dramâu i ennill eu tamaid. Yr oedd eraill o ddramawyr y cyfnod yn wyr dysgedig, megis Thomas Sackville, un o awduron Gorboduc, y cyfeiriwyd ati eisoes, ond y mae a fynno traddodiad â saith yn unig, sef Lyly, Greene, Peele, Nash, Lodge, Kyd a Marlowe. Nid drama yn unig oedd eu maes chwaith yr oedd rhai ohonynt yn feirdd da, eraill yn dychanwyr, a bu rhai wrthi'n ysgrifennu rhamantau a nofelau. Yr oedd eu cyfraniad i'r ddrama yn amlwg iawn yr oedd Comedi wedi cyrraedd safon Gammer Gurtoris Needle, Trasiedi safon Damon and Pythias, y Ddrama Hanes safon The Troublesome Reign. Cydiasant yn y tair ffurf hyn a'u codi i lefel uchel a theilwng gan gryfed eu gallu a'u dawn. 3. Y mwyaf gwreiddiol ohonynt i gyd oedd John Lyly, eto efô sydd bellaf oddi wrth ein hoes ni, ac o'r herwydd y mwyaf anodd ei werthfawrogi. Ymddengys hyn yn wrthddywediad bron, ond y mae'r ffaith yn bur hawdd ei hesbonio. Swyddogion y llys oedd cynulleidfa ddethol Lyly, ac yn yr oes honno yr oedd math arbennig o ymddiddan yn boblogaidd a ffasiynol yn y cylchoedd hynny, sef Euphuism-rhyw ddull o siarad blodeuog a chwmpasog. Felly hefyd yr ysgrifennai pobl, a chawn Lyly ei hun yn ymarfer â'r dull wrth ysgrifennu ei Euphues. Yr esbon- iad ar yr anhawster yw hwn mai'r un oedd Lyly'r dramaydd â Lyly'r Euphuist. Y mae iaith ei ddramâu mor addurnedig å iaith ei ryddiaith. Yr oedd dwyn arferion Euphism i fyd y ddrama yn gyfraniad pwysig, er hynny i gyd, oblegid gosododd werth ar eiriau yn hytrach na chyffro. Yn wir, y mae'n anodd