Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYDDIN HARRI VII A'R CLEFYD CHWYSU Gan G. PENRHYN JONES YSGUBWYD Gorllewin Ewrop droeon yn y Canol Oesoedd gan amryw glefydau pur ddychrynllyd. Yr oedd eu natur enbyd a'u hymosodiadau chwyrn ar dyrfaoedd gyda'i gilydd yn fwy nag y gallwn ni eu hamgyffred heddiw. Daeth y Pla Du ar ei arswydol rawd i Brydain. Bu eraill, yn eu tro, llawn mor ddifrifol eu hansawdd, rai ohonynt, er nad oeddynt efallai mor niweidiol i'r patrwm economaidd ag y bu'r Pla Du. Yn niwedd y bymthegfed ganrif daeth haint newydd a rhyf- eddol i'r ynys hon. Arhosodd yma am tua hanner canrif, ac ni welwyd mohono mwyach. Bu iddo amryw enwau, Sudor Britan- nicus, Sudor Anglicus, y Clefyd Chwysu, etc. Y mae cyfeiriad diddorol ato yng nghofnodion plwyf Loughborough fel the swete, called new acauaintance, alias, stoupe, knave and know. thy master." Yn ôl pob tebyg daeth y clefyd hwn yma o Ffrainc gyda byddin Harri Tudur yn 1485. Ychydig wythnosau ar ôl i'w wyr lanio yn Sir Benfro, yr oedd y cyntaf o bum epidemig ar ei anochel hynt. Yn 1551 bu farw o'r tir, a'r flwyddyn honno hefyd yr ysgrifennodd un o'r llygad-dystion olaf, John Caius o Gaergrawnt, ei draethawd arno. Y mae'r disgrifiad hwn yn un amwys a chrwydrol, ac wedi ei sgrifennu yn null athronyddol yr hen draddodiad meddygol, ond sylwodd Caius* fod y Clefyd Chwysu hwn yn dueddol i daro'r cyfoethog a'r pendefig, ac yn wahanol i'r mwyafrif o heintiau, fod y tlawd yn gymharol rydd. Bu'r Cardinal Wolsey a merch Syr Thomas More dan yr afiechyd ar un adeg, a buont yn ffodus i gael adferiad ohono. Gorfu i'r brenin mewn un epidemig symud o le i Ie i osgoi cynefin y clefyd, ac mewn un arall bu farw dau faer yn y brifddinas. Nid oedd y Clefyd Chwysu mor angheuol â'r Pla Du, er enghraifft, ond bu farw miloedd ohono yn y blynyddoedd rhwng 1485 a 1551. Dywaid Robert Richards Gwyddom i gynifer â. 500 o ddines- wyr Croesoswallt farw yn ystod ymweliad a fu yn 1559. Dyma'r pryd, meddir, y codwyd y groes a adwaenir fel Croes Wylan." Ar un adeg, yng Nghaer, bu farw tua chant mewn tri diwrnod, a phan oedd y clefyd ar ei waethaf yn Llundain cynhaliwyd