Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYLLTION FLODAU GELLTYDD GAN R. ALUN ROBERTS T?DL1WIR i ni Gymry yn fynych ein diffyg dawn fel cenedl i werthfawrogi llawer o bethau cain a phrydferth. Dichon fod gwir yn hyn am a genfydd ein llygad, yn arbennig drwy gyfrwng lliwiau. Yn wir, rhaid cyfaddef mai cyfyng iawn ydyw adnoddau geiriau Cymraeg i ddarnodi Uiw — -gwyn a du, gwyrdd a glas, melyn a choch a llwyd, a dyna'r cwbl am a wn i. Ni thybiaf i ein bod un iot ar ôl i bobl eraill mewn gwerth- fawrogi llun a ffurf, a chredaf hefyd yn anad dim mai drwy gyfrwng y glust y mae synnwyr esthetig y Cymro yn dirnad ac yn gwerth- fawrogi orau. Onid clywed y byddwn, nid yn unig swn a sain a phob cynghanedd drwy'r glust, ond clywed hefyd yr hyn a edrydd ac a adnebydd synhwyrau'r teimlad, yr archwaeth a'r arogliad. Ie, clywed oglau, clywed blas, a chlywed â blaenau'r bysedd. Tybiaf fod a wnelo ein gorffennol hen, gyda'i dreftadaeth o fyw yn y gwaundiroedd, lawer â phatrwm etifeddol ein hym- deimlad ac â'n dulliau o amgyffred yn synhwyrus. I bobl a fagwyd o hil gerdd mewn maesgymoedd llwm a llwyd, a lle "llusga'r tarth ym mhenarth y mynydd feunydd feunos, gwelwn fyth a hefyd ger ein bron gyfoeth ac amlder ffurf a llun, mewn niwl a chwmwl. Gwna hyn efallai i fyny am brinder lliw, a thlódi tanbeidrwydd haul yn ein hardaloedd. Cenedl fugeiliol wasgarog ydym ni wedi bod, a'n cyfle am gymdeithas a chyfathrach yn brin iawn ac yn gyfyng, o'u cymharu â chym- deithas foethus gefnog y trefydd. Ceisier gan hynny ogoniannau ein celfyddydau priod fel cenedl ar aelwyd y bwthyn a'r tyddyn- lle yn unig y cadd ei gyfle cyfyng gynt, mewn cerdd dafod a cherdd dant, mewn cerfio coed, ac efallai mewn cyfle crefft ar ddydd gwaith-plygu gwrych, codi clawdd cerrig a gosod aradr. Ac yn hyn o beth nid ydym ar ôl i eraill. Ni pherthyn i ni Gymry'r ucheldiroedd a'r gweundir etifedd- iaeth foethus gwledydd heulog nid ydyw na'r tir na'r tywydd, na'r tymhorau na'n tymheredd ninnau chwaith, yn ffafrio trin garddi Ar lethrau'r mynyddoedd ni ddygymydd niwl a glaw a gwynt â gorhoffedd gardd. Ac ar surni'r mawndir ofer ydyw disgwyl gogoniant Uiwgar gerddi. Gan hynny rhagorach gau