Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

prin blodau gwyllt yr ardaloedd hyn mwyach, beth bynnag. Ond y cysur mwyaf ydyw mai mewn atgo yn unig y mae medd- iant dyn yn sicr. Y mae briallu gweirglodd fach Nant y Noddfa yn feddiant hollol imi yn eu tymorac allan o'u tymor byth mwyach, ac felly'r eirlys, serch bod yr hen famaeth hoff, Margiad Huws, wedi mynd at ei gwobr flwyddi lawer yn ôl. Gan hynny, cyrchwch yn hytrach drysorau prid blodau gwylltion prin, pob un yn ei fangre, a chadw eich cyfrinach yn glos, rhag ofn peri achos iddynt gael eu rheibio. Y mae noddi y rhain, ysywaeth, yn fater o frys yn ein dyddiau ni. Cyn pen nemor o amser, cawn Barciau Cened- laethol Eryri a Phenfro a mannau eraill. Bydd hwyluso cyfleus- terau i bawb yn ddiwahaniaeth gyrchu i encilfeydd lIe y llecha'r trysorau prinion hyn. Bydd taro blin a mynych o hyn allan ar eu caer a'u lloches yn y creigiau. Ac nid cariadon â chroeso iddynt fydd y cwbl o'r rhai yr estynnir cyfle iddynt a rhyddid i holl drigfannau'r nef hon, gwaetha'r modd A'r gwayw i mi a'm tebyg fydd sicrhau moddion i'w noddi a'u gwarchod yn eu cynefin hen. Daw i'm cof gerdd Parry-Williams i Gerallt Gymro, lle y sonia mewn geiriau â lliw a blas y Mabinogion yn hyfryd arnynt Yng nghwm a gallt, yn nhyle ac yn nhyno, Lluestai'r gwanwyn yn ei wyrdd ym Mhenfro." Roedd hynny chwe chan mlynedd a rhagor yn ôl, a bu felly oddi ar hynny. Dichon y daliodd felly hyd yn hyn drwy lawer bro a chwmwd, ond teg ydyw amau a fydd hi felly nemor o amser ymlaen. Dichon y bydd Uuesty'r gwanwyn rhag blaen yn llwytach yn ein broydd a lliaws meflau a brychau ar glog y gwyrddlesni a gadwodd Salesbury a Phennant, Edward Llwyd a Lloyd Will- iams, yn eu cenedlaethau hwy yn ddilychwin a dihalog. Dyna fydd yr hanes os difrodir ein hetifeddiaeth a rheibio ein trysorau prin. Y mae eisoes fygwth rheibio ac ysbeilio tegwch ein broydd a moryndod y glennydd, a'r bygwth yn tyfu yn her. Mae'r corn weithian yn galw yn glir unwaith eto fel cynt, am weilch a fydd ddewr yn nhrin yn awr y cyni hwn. Pwy, tybed, a etyb yr alwad ?