Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Do, bûm yn flin. Ond weithion gwybydd di Fod Fflam yn llosgi ynof, ac aml dro Yn llamu ar draws fy nghorff materol i, A'm hysu hyd fy ngyrru i maes o'm co', A strancio a wnaf eto rhag fy ffawd Nes torro'r Fflam ei ffordd o'i charchar cnawd. Yr oedd Prosser Rhys yn troi at Natur am ryddhad oddi wrth ddyn. Anufudd ac aflan ydyw dyn, ond Natur ydyw'r man lIe ceidw Duw ei bethau drud heb staen." Af i'w cwmni, bethau prydferth, bethau pur. 0 bethau tirion, Rhag yr Oes a'i dulliau gwirion sy'n andwyo enaid blin. Yn nheml anian yr addolaf, gras gaf yno i'm cynhesu A lleferydd pur yr Iesu sydd a'i eiriau fel y gwin. Wedi'r canu mawr cyntaf, bu tawelwch, ond fe ganodd eto wrth nesu at y diwedd. A fu newid ? Naddo, ar wahân i fwy o sicrwydd tawel. Yr oedd goleuni yn ein llygaid ni i gyd pan oeddym yn blant. Bydd bardd yn ei gadw yn ei lygaid ar hyd ei oes-dyna paham y mae'n fardd-ac wrth i Prosser Rhys ddeffro yn yr ysbyty a gwybod ei fod eto am gael byw, Do," meddai, cofiais wyddfid Pen Gelli a'r gwair ar y cae." Daeth chwythwm o awel i'r ward-awel gyntaf y dydd, Gan ddeffro atgofion bywiol a gobeithion am a fydd A gwyddwn y cawn weled eto Graig y Gwcw a Chwm Gwŷdd. Nid mwynderau'n unig a ddaeth i ran Prosser Rhys wrth gael ei eni yn y bwthyn yn ardal lom, fryniog, gorsiog Mynydd Bach Llyn Eiddwen," ond dyna ardal ei febyd, ei wraidd, a'i hiraeth (a phur lafurus ydyw ei ganu am Gymru o'i gymharu â'i ganu am y Mynydd Bach). At y diwedd, meddai