Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARBROFION MEDDYGOL Y TROFANNAU GAN OWEN E. ROBERTS VN ddiamau, rhoddodd darganfyddiad parasitau malaria a'u perthynas â'r mosgîto symbyliad mawr i ymchwil mewn afiechydon trofannol eraill. Bu llawer o chwilio am barasitau, weithiau'n llwyddiannus, dro arall yn aflwyddiannus. Bu dyfal ddilyn hynt y rhai a ddarganfuwyd, a chanfod felly sut y tros- glwyddid gwahanol heintiau gan bryfed a malwod, ymlusgiaid ac anifeiliaid. Yr oedd y gwaith yn fwy llafurus o lawer na dilyn hynt meicrobau. Gyda'r rheini, nid oedd angen ond ysbyty a labordy, y rhan amlaf. Nid oedd nac ysbyty na labordy yn ddigon i archwilio afiechydon trofannol. Rhaid oedd gweithio yn y wlad agored, ar fwy nag un cyfandir, i gasglu gwybodaeth. Rhaid oedd anfon ymchwilwyr i India i weithio ar y pla, i Ganoldir America a Gorllewin Affrica i astudio'r dwymyn felen, i Frasil ar ôl y mosgîto, i Tanganyika ar drywydd y tse-tse. Golygai hyn ymgyrchoedd drud, a Sefydliad Rockefeller o America, neu'r Gymdeithas Frenhinol ym Mhrydain, a fu'n gefn i lawer cyrch, ar wahân i arian a waddolwyd gan gyfoethogion dyngarol. Ni fydd meddyg cyffredin ym Mhrydain byth yn cyfarfod ag afiechydon trofannol, ac felly prin y cyffyrddir â'r problemau cysylltiedig â hwynt ar raglen cwrs meddygol. Gwaith i arbenig- wyr yw. Sylweddolwyd hynny ar ddiwedd y ganrif ddiwaethaf. Y gwledydd mawr â'u hymerodraethau yn ymestyn i'r trofannau, a ymddiddorodd yn y gwaith. Masnachol oedd y symbyliad, oherwydd trwy wella cyflwr y gweithiwr y tyfid chwaneg o angen- rheidiau, neu y cynhyrchid rhagor o nwyddau. Ar wahân i hyn, yr oedd un o bob pump o'r Ewropeaid yn Affrica yn dioddef oddi wrth afiechydon trofannol ar ddiwedd y ganrif ddiwaethaf. Pwysodd Syr Patrick Manson, prif awdurdod Prydain ar afiech- ydon trofannol, ar Joseph Chamberlain, Ysgrifennydd y Trefedig- aethau, ac apeliodd yntau yn 1898 am ganolfannau i hyrwyddo astudiaethau ac i addysgu meddygon i wasanaeth yr Ymerodraeth. Sefydlwyd dwy ysgol o'r fath yn 1898, un yn Llundain a'r llall yn Lerpwl, i roddi addysg i feddygon graddedig a'u galluogi i gymryd Diplomâu mewn Meddygaeth a Iechyd Trofannol (Diploma in Tropical Medicine and Hygiene). Dengys y pwyslais ar iechydeg