Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIRORHOSLAS GAN C. E. THOMAS ARFERIAD yn y nodiadau hyn ydyw sôn am a fu yn hytrach nag am yr hyn a fydd, ond am ychydig y tro hwn carwn dynnu eich sylw at y dyfodol, a'r cyfleusterau a gynigir i'n myfyr- wyr. Cynigia'r Weinyddiaeth Addysg amryw ysgoloriaethau i fyfyrwyr dros bump ar hugain oed i ddilyn cyrsiau am dair blyn- edd mewn unrhyw Brifysgol ym Mhrydain. Dyma gyfle gwych i'n myfyrwyr ieuainc sy'n dymuno trio am ail gynnig. Rhaid i'r ceisiadau* am y rhain fod i mewn ym mis lonawr. Credaf fod amryw o aelodau ein dosbarthiadau a allai wneud defnydd da o ysgoloriaeth fel hyn ond iddynt ymdrechu amdanynt. Y mae hefyd ysgoloriaethau eraill am un flwyddyn, un ai i un o golegau'r Brifysgol, neu Goleg Harlech. Os oes arnoch awydd cynnig am un o'r rhain, cewch yr holl fanylion o swyddfa'r WEA. Dyma gyfleusterau a all wedd- newid rhagolygon aml i fyfyriwr cydwybodol. Af yn ôl yn awr i roddi tipyn o hanes ichwi. Does dim cymaint o bethau yn digwydd ym myd addysg yn yr haf ag yn y gaeaf. Serch hynny, ceir cryn dipyn o weithgarwch yn y swyddfa, yn cau pen mwdwl yr hen flwyddyn, ac yn paratoi a threfnu at y tymor newydd-adeg bryderus, ddyrys a phrysur. Er na chynhelir dosbarthiadau ffurfiol yn yr haf fel yn y gaeaf, cynhelir, serch hynny, laweroedd o Ysgolion Haf Di- breswyl, Ysgolion Undydd, Darlithoedd Arbennig, a chyfarfod- ydd cyffelyb gan ein canghennau a'n dosbarthiadau. Cangen Prestatyn wedi cynnal dadleuon, trafodaethau a darlith gyhoeddus-yr Arglwydd Macdonald o Waenysgor yn darlithio iddynt ar Newfoundland, a chynulliad o dros drigain yno yn gwrando arno. Cynhaliwyd Ysgol Haf arbennig eleni yn Neuadd Alun, y Coleg Normal, Bangor, dan nawdd Cydbwyllgor Coleg Bangor a'r WEA. Trefnwyd hi'n arbennig i drin a thrafod problemau'r diwydiannau sydd wedi eu gwladoli. Cafwyd amryw o arbenig- wyr yno i ddarlithio, a bu'r Ysgol yn un Uwyddiannus iawn. Gwyddom oll mai gwlad Llyn yw'r ardal nodedig am Ysgolion