Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diwedd wythnos arall, Hydref 28-29, byddwn yn cynnal Ysgol WETUC arall yn y Barri. Gwnaed ceisiadau am ysgolor- iaethau gan 150 o undebwyr llafur i fynd iddi. Ysywaeth, ni allwn roddi mwy na 90 o ysgoloriaethau. John Holland fydd y darlithydd ef yw Is-Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Draffts- myn yn y gwaith Peiriannau ac Adeiladu Llongau, a bu'n rhoddi cwrs o ddarlithiau i undebwyr llafur yn Ysgol Haf Bangor. Ein hamcan dyblyg yn ystod y tymor hwn fydd chwyddo nifer yr undebwyr llafur a fydd yn fyfyrwyr ein dosbarthiadau a'n hysgolion eraill, a chwyddo rhif aelodau ein canghennau. The Background of Welsh History, gan A. H. Williams. Hughes a'iFab. 3/6. GANomai cyfieithiad ydyw'r llyfr hwn o lyfr a adolygwyd eisoes yn LLEUFER (Cyf. I, Rhif 3), gofynnwyd imi sgrifennu nodyn byr yn unig i'w ddwyn i sylw'r darllenwyr, a manteisiaf ar y cyfle i'w gymeradwyo'n gynnes iawn. Y mae'r gyfrol fechan hon yn fwy na chyfieithiad o Cymru Ddoe yr awdur yng Nghyfres Pobun y mae'n gyflwyniad teg, a hynod gynhwysfawr, o Hanes Cymru i rai na fedrant ddarllen Cymraeg. Ac nid braslun moel o'n hanes ydyw chwaith, oherwydd y mae yma ymgais lwydd- iannus iawn i ddehongli datblygiad ein cenedl. Y mae'n gampwaith o grynhoi, ac er prinned fy ngofod ni allaf ymatal rhag dyfynnu ambell frawddeg fachog a chynwysfawr. Wrth esbonio agwedd y Tuduriaid tuag at Gymru, dywaid: Henry Tudor had won the crown of Britain, not of Aberffraw," ac am John Elias the great preacher but cramped soul." A dylai'r frawddeg ddeifiol hon roi taw ar y bobl hynny sy'n mynnu nad oes Hanes Economaidd i Gymru cyn y Chwyldro Diwyd- iannol: wrth sôn am ddatblygiadau diwydiannol a masnachol cyfnod y Tuduriaid, dywaid Mr. Williams, it was enough to suggest that the industrial history of Wales does not begin with the growth of Merthyr Tydfil." Da chwi, os gwyddoch am Saeson a Chymry di-Gymraeg sydd am ddysgu peth o'n hanes­ac y mae llawer ohonynt-pwyswch arnynt i brynu'r gyfrol hon neu'n well fyth, rhowch hi'n anrheg Nadolig iddynt. FRANK PRICE JONES