Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Ysgrifau John Breese Davies, wedi'u golygu gan Iorwerth C. Peate. Gwasg y Brython. 6/ GwYr fel ef, gwerinwyr mewn gwirionedd, a wnaeth Gymru yn genedl y mae'n werth ymffrostio ynddi a'i charu. Buchedd gwyr fel John Breese Davies yw'r rheswm cryfaf posibl tros gadw Cymru'n fyw Dyna eiriau Iorwerth Peate yn ei Rag- ymadrodd i'r gyfrol hon. Wedi darllen yr ysgrifau, ni ellir peidio ag edmygu J. Breese Davies, ei edmygu a rhyfeddu at ei amlochredd. Yn ôl safonau heddiw ychydig o addysg ysgol a gafodd, ond dyma ẃr a fedrai sgrifennu Cymraeg swynol a grymus. Darllenasai yn helaeth. Gwrandawer eto ar eiriau Dr. Peate (t. 10) Yr oedd yn eith- riadol eang. Anaml y cyfarfûm â gwyr o ddysg prifysgol a wyddai un pwnc yn debyg iddo." Meistrolodd deithi'r soned a gwych o beth i brentisiaid fai efrydu'r ysgrif arni. Gwelodd arbenigrwydd a phwysigrwydd R. J. Derfel flynyddoedd cyn i'r Clwb Llyfrau ddod â'i waith i'r amlwg. Gallai ysgrifennu'n ysgafn a nwyfus, e.e., Siop y Pentref, neu ddangos treiddgarwch a beirniadaeth. I mi y fwyaf diddorol o'r holl ysgrifau yw Canu gyda'r Tannau. Yma eto cynghorwn bawb sy'n ymhyfrydu yn y grefft honno i feistroli'r cyfarwyddyd sydd yma. Digon amrwd ac anghelfydd yw llawer o'r canu gyda'r tannau a glywir yng Nghymru heddiw, ond dyma bencampwr yn trin y gelfyddyd, gẃr a wyddai ac a barchai draddodiad. Nid peth newydd yw canu penillion ym Mawddwy a Chaereinion; pery'r traddodiad yno'n ddifwlch. (Wrth fynd heibio, gwell cywiro un gwall argraffu t. 83, dechrau'r ail baragraff, darllener, Yn null y Gogledd ni (nid hi) ddech- reuir gyda'r gainc "). Ni pherthynai iddo ddim o'r hunanoldeb a'r hollwybodusrwydd sy'n dilyn hunan-ddiwylliant-yn rhy aml 0 lawer, ysywaeth. Yr oedd yn wr rhy hoffus a chyfoethog ei bersonoliaeth i hynny. Siopwr y Pentref, aelod, ysgrifennydd a chadeirydd pob math o bwyllgorau lleol a sirol, pregethwr derbyniol, llenor medrus, beirniad craff, a gwr hyddysg mewn cerddoriaeth-dyna John Breese Davies. Gwyn fyd na fagai Cymru fwy o feibion tebyg iddo.