Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bugeiliaid Epynt, gan David Owen (Brutus), golygwyd gan Thomas Jones. Cyfrol ddwbl, 2 /6. Golwg ar y Beiau, gan Jeremy Owen, golygwyd gan R. T. Jenkins. 1/6. Llyfrau Deunaw. Gwasg y Brifysgol. Dywedwyd lawer tro i oes aur llenyddiaeth Cymru farw gyda'r Cyfnod Pabyddol ac na luniwyd dim llenyddol wych wedi'r Diwygiad Protestannaidd. Pa un ai gwir hynny ai peidio, rhaid addef y buasai ein llenyddiaeth lawer yn dlotach oni bai am y Diwygiad hwnnw a'r mân Ddiwygiadau eraill a ddaeth yn ei sgil. Onid ofn Pabyddiaeth a dychan y Chwigiaid a roes rym yn ffrewyll y Bardd Cwsc ? Prif ddiben Theophilus Evans oedd dangos mai Protestaniaeth Eglwys Loegr oedd y wir ffydd Gristionogol­ y ffydd a goleddid gan ein hynafiaid, y Brytaniaid gynt, yng nghanrifoedd cynnar Cred cyn dyfod cyfeiliornad o Rufain— a cheisio profi bod Methodistiaeth a phob Ymneilltuaeth now about everywhere out of date," a hynny yn 1751. Druan o Theo- philus Myned rhagddo yr oedd y Mudiad Ymneilltuol nes newid agwedd grefyddol y wlad yn llwyr. Ar y dechrau mudiad arall- fydol yn unig ydoedd, paratoi'r aelodau ar gyfer y byd a ddaw oedd yr amcan, gan anwybyddu'r byd hwn yn gyfan gwbl. Mentrai ambell un o blith yr hen Ymneilltuwyr, dynion fel Morgan John Rhys a Thomos Glyn Cothi, godi eu llais o blaid mwy o ryddid yn y fuchedd hon, eithr unigolion oeddynt ac ni wrandawyd arnynt. Un rheswm am hyn ydoedd cyflwr cythryblus Ewrop ar y pryd, cyfnod y rhyfel hir â Ffrainc a'r unben Napoleon, 1793-1815. Ond wedi 1815 daeth tro ar fyd. Yn raddol deffrôdd yn enwadau, yr hen Ymneilltuwyr dipyn yn gynt na'r Methodist- iaid, a daethpwyd i sylweddoli bod teyrnas Crist yn golygu daear newydd yn ogystal â nef newydd, a'i bod hi'n ddyletswydd ar y Cristion wneud y gorau o'r byd hwn hefyd. Bellach troes y mudiad crefyddol yn fudiad gwleidyddol; esgorodd Ymneill- tuaeth ar Radicaliaeth. Yn awr, rhaid rhoi addysg wleidyddol i'r bobl. Ond sut ? Nid oedd newyddiadur Cymraeg cenedlaethol. Bu farw ymgais Gomer (y Seren gyntaf) oherwydd ei hamhendantrwydd a'i hamlochredd­nid gwr un blaid nac un sect oedd Gomer y pryd hwnnw. Yn ddiweddarach, yn ail hanner y ganrif, y daeth Thomas Gee â'r Faner a gorffen Radicaleiddio'r wlad. Am y cyfnod canol, bu raid dibynnu'n gyfan gwbl ar y cylchgronau crefyddol ac