Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Am yr ail gyfrol, Golwg ar y Beiau, ychydig sydd gennyf i'w ddweud. Rhaid imi addef cryn anwybodaeth o'r cyfnod, ac ni allwn fod wedi deall y gwaith oni bai am Ragarweiniad cyn- hwysfawr a gwerthfawr R. T. Jenkins i'r gyfrol. I mi yr oedd hwn yn fwy amheuthun na hyd yn oed gwaith Jeremy Owen ei hun. Dengys yn glir nad tyfu'n union a dilestair a wnaeth Ymneilltuaeth yng Nghymru. Yn hytrach blaguro, gwywo ac egino drachefn yw ei hanes. Bu erlid ar ran yr awdurdodau gwladol, gwgodd Eglwyswyr, ac ni fwy na dim, efallai, bu anghyd- fod o fewn y cynulleidfaoedd eu hunain. Yma cawn hanes am anghydfod o'r fath tua dechrau'r 18fed ganrif, yn hen gynull- eidfa Annibynnol enwog Henllan Amgoed, ychydig filltiroedd o'r Tŷ Gwyn ar Daf." Dichon mai enghraifft yw o'r hyn a ddig- wyddodd mewn aml gwr o'r wlad. Diolch yn fawr i Dr. Jenkins am gyfraniad pellach at hanes Ymneilltuaeth yng Nghymru, ac am ddwyn gwaith gwreiddiol un o'r hen Ymneilltuwyr i'r amlwg. E. P. ROBERTS ISaunders Lewis, ei Feddwl a'i Waith, golygwyd gan Pennar Davies. Gwasg Gee. 6/ Heblaw englynion R. Williams Parry a Rhagair "y Golygydd, ceir yn y gwaith hwn bedair ysgrif ar ddeg, a phob un o'r rheini'n ymgais grefftus i ddehongli meddwl a gwaith un o wyr arbenicaf ein cyfnod. Eddyf nifer ohonynt na allant weld lygad yn llygad ag ef ar bob mater, ond rhoddant iddo deyrnged haeddiannol iawn am loywder ei athrylith a diffuantrwydd ei gred. Fel y gwyddom, y mae enw Saunders Lewis yn rhannu ein cenedl yn bendant i ddau wersyll, ond nid oes neb yn amau na'i fedr na'i ddidwylledd. Troir y golau ar yr agendor hwn gan D. J. Williams ar ddechrau'r llyfr, a'r cwestiwn a ofynnaf ydyw hwn A fydd i'r gyfrol hon leihau ychydig ar led y gwahaniad ? Nid gwaith hawdd ydoedd i bob un dynnu darlun o ongl wahanol, oherwydd na all yr un gwrthrych byw aros yn llonydd yn ei unfan, ac ymddangos yr un fath bob tro. Er da neu er drwg, datguddiodd Mr. Lewis ei batrwm lawn chwarter canrif ýn ôl, ac er iddo symud er y pryd hwnnw, symud crefftwr yn gweithio allan ei batrwm ydyw, ac ni all neb lai nag edmygu ei fedr a'i gelfyddyd. Fel y disgwylid, gwelir yr edmygedd yn troi'n addolgarwch bron mewn dwy neu dair o'r ysgrifau hyn, ond y mae