Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymdriniaeth Kate Roberts, D. Gwenallt Jones a G. J. Williams yn wych iawn, ac ni ellid taro ar hapusach golygydd. A gymerir at y gwaith hwn gan ddosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ? Credaf y gwneir gan y rheini sy'n cymryd Cymraeg neu Hanes Cymru fel pwnc, a bydd y drafodaeth yn frwd nid oes bosibl na fydd. Eto, gan na wyr ein cydwladwyr nemor ddim am flynyddoedd cynnar Mr. Lewis, teimlaf mai peth da fuasai rhoi ychydig o'i hanes, petai ond mymryn o'r tu mewn i'r siaced-sydd, mi dybiaf, yn bur gelfydd. Ymhellach, ni wn sut y gallodd Gwasg Gee gyhoeddi'r gyfrol hon am chweswllt. E. LEWIS EVANS Patrymau Llenyddol y Beibl, gan Bleddyn J. Roberts. Cyfres Pobun, Cyfrol Ddwbl. Gwasg y Brython. 4/ Pe traethent eu profiad, sicr y dywedai llawer o fyfyrwyr diwinyddol iddynt gysgu, hepian, a gwibio ymhell o ran meddwl, tra'n gwrando ar y darlithydd yn trafod yn ddysgedig hanes llenyddiaeth y Beibl--J.E.D.P. yn y Pumllyfr, Q.M.L., etc., yn yr Efengylau. Ie, sych a dibwrpas yr ymddengys yn aml. Llenyddiaeth farw Rhaid gwybod rhywbeth am y ffynonellau hyn ar gyfer arholiad, ac yna eu hanghofio. Ond rhaid cofio bod yn awr ymgais i weld perthynas rhwng y Beibl a bywyd y bobl y perthyn iddynt. Dyna yw cyfraniad yr astudiaeth a elwir yn Feirniadaeth Ffurf-lenyddol," form- geschichte, a'r pwyslais parhaus ar briod le," Sitz im Leben," pob ymadrodd, stori a chân. Casgliadau a chyfraniad yr astud- iaeth hon a gyflwynir gan Bleddyn Jones Roberts yn y llyfryn hwn. Croesawn yn galonnog iawn yr ymgais hon, a llongyfarchwn olygydd Cyfres Pobun am roddi cyfle i un o brif ysgolheigion Beiblaidd Cymru i draethu ar y pwnc hwn. Yr unig ofid yw ddarfod i'r ysgrifennwr orfod ei gyfyngu ei hun i gyfrol mor fechan. Oherwydd newydd-deb a phwysigrwydd yr astudiaeth, credwn y byddai o fantais fawr cael cyfrol fwy. Wrth wasgu a chyfyngu, wyneba Mr. Roberts y perygl o gael ei gamddeall gan rai nad ydynt yn gyfarwydd yn y maes yma. Ceir yn y llyfr saith bennod i drafod patrymau Uenyddol yr Hen Destament, a thair pennod i eiddo'r Testament Newydd. Cloir y cwbl â phennod fer sy'n dwyn y teitl Diweddglo."