Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Alegorïau Christmas Evans, gol. gan Hugh Bevan. Llyfrau Deunaw. Gwasg y Brifysgol. 1 /6. Bydd y mwynhad a gaiff y darllenydd wrth ddarllen y dethol- ion hyn yn dibynnu i raddau mwy nag arfer ar ei mood ef ei hun. Os mewn tymer ddrwg y bydd, gall bigo llu o wendidau un o hoelion wyth oes aur y pregethwr os ymchwilgar fydd, caiff lu o gyfeiriadau sy'n darlunio bywyd gwerin Cymru dros ganrif yn ôl ond os yw'n barod i ymgolli yn y darllen, a rhoi tragwyddol heol i'w ddychymyg, odid na fydd cyn hir yn torri allan i weiddi, Diolch iddo." Faint, tybed, o dderbyniad a fyddai i'r math hwn o bregethu erbyn hyn ? A ydyw gwybodaeth Feiblaidd ein cynulleidfaoedd yn ddigon i'w werthfawrogi ? FRANK PRICE JONES RHAI O AWDURON Y RH I FYN. DR. GLYN PENRHYN Jones, o Fethesda­Cofrestrydd Meddygol Ysbyty Môn ac Arfon. DR. T. HUGHES GRIFFITHS, Caerfyrddin-Athro Dosbarth- iadau ar staff Coleg y Brifysgol, Abertawe. Miss Enid PIERCE RoBERTs-Darlithydd mewn Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Bangor; golygydd Detholion o Hunan- gofiant Gweirydd ap Rhys. Y PARCH. ELWYN R. ROWLANDS—Darlithydd mewn Hebraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. CYFEIRIADAU Ysgrifennydd Cyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr-- Harry Nutt, Temple House, 27 Portman Square, London, W.l Trefnydd, Rhanbarth Deheudir Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr—D. T. Guy, Swyddfa'r WEA, 52 Charles St., Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr—C. E. Thomas, Swyddfa'r WEA, Rhoslas, 33 Ffordd y Coleg, Bangor. Golygydd LLEUFEB—David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnes LLEUFER—D. Tecwyn Lloyd, Coleg Harlech, Harlech. Dosbarthwr LLEUFEB—Miss J. Allford, Swyddfa'r WEA' Rhoslas, 33 Ffordd y Coleg, Bangor.