Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NOHYMRU CYF. VII HAF 1951 RHIF 2 NODIADAU'R GOLYGYDD yN ystod y Rhyfel Mawr cyntaf, pan oeddwn yn rhwymo haidd ar ryw brynhawn poeth ym mis Awst, daeth gẃr ifanc ataf i'r cae a dweud mai George Davies ydoedd. Yr oeddem wedi bod yn ysgrifennu at ein gilydd cyn hyn, ond dyma'r tro cyntaf inni gyfarfod. Wedi imi gydio llaw ag ef, ac edrych i'w lygaid, mi wyddwn ein bod yn gyfeillion am oes, a theimlwn ein bod wedi bod yn gyfeillion erioed. Trefnodd i ddyfod i fyny, ar ôl amser noswylio, i dŷ'r ffarm lle'r oeddwn yn gweithio, a gwahoddwyd ef i aros i swper. Ac yno y buom am oriau yn y gegin yn sgwrsio â'r teulu caredig, yr hen wr a'r hen wraig, a'r mab, tua'r un oed â ni'n dau, a oedd â gofal y ffarm arno. Aeth i fyny beth yn syniad yr hen bobl pan ddywedodd ei fod wedi marchogaeth drwy fuarth y ffarm lawer tro pan oedd yn oruch- wyliwr banc yn Wrecsam flynyddoedd yn gynt. Ond, ar wahân i bethau felly, yr oeddem oll yn teimlo hud ei bersonoliaeth. Yn Wrecsam, ryw ddwy filltir i ffwrdd, yr oedd George yn aros y noswaith honno, a phan ddaeth yr amser iddo fynd, cododd Mr. Evans, y mab, a minnau i'w hebrwng allan o'r buarth ac i gyfeiriad y ffordd fawr. Nid oeddem wedi bwriadu mynd fwy nag ychydig lathenni gydag ef, ond yn Wrecsam y cawsom ein hunain cyn inni feddwl am droi'n ôl. Rwy'n amau bod tipyn bach o gyfaredd y daith i Emaus arnom. Nid mewn dim byd mawr iawn a wnaeth George Davies erioed yr oedd ei swyn, er iddo wneud pethau go fawr yn ei ddydd, ond yn yr hyn ydoedd. Byddai'n edrych arnoch fel petai yn eich caru, ac er efallai na wnâi ichwi newid eich barn, byddai'n anodd coleddu meddyliau annheilwng pan fyddech yn ei gwmni, neu'n meddwl amdano. Nid adwaenais i neb erioed a chanddo gyn