Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SWYDDFA DRAMOR GAN J. ALUN THOMAS EFALLAI nad oes un agwedd ar bolisi llywodraeth yn fwy o ddirgelwch i'r dyn cyffredin na'i pholisi tramor. Gymaint ydyw'r parch i gymhlethdod problemau cydwladol fel y mae'n anodd credu y gall un gWr, yr Ysgrifennydd Tramor, ddelio â hwynt. Felly, tra ydym yn barod i ganmol neu feio'r Llywodraeth am ei pholisi cartref, y duedd ydyw sôn a synied am bolisi tramor fel petai hwnnw yn cael ei lunio gan swyddfa o arbenigwyr ac mai rhoddi mynegiant i bolisi swyddogol ydyw gwaith yr Ysgrifennydd Tramor. Yr arfer ydyw sôn am bolisi Prydain fel polisi'r Swyddfa Dramor, am bolisi'r Unol Daleithiau fel polisi Washington, ac am bolisi Ffrainc fel polisi'r Quai d'Orsay. Y gred gyffredin ydyw bod y Gweinidog Tramor yn nwylo'i gynghorwyr i raddau helaethach na'r un gweinidog arall. Pa un a oes sail i'r gred hon ai peidio y mae'n anodd dweud. Eto, hawdd ydyw canfod y rheswm amdani. Canys fe ym- ddengys fod i bolisi tramor pob gwlad ei batrwm nodweddiadol ei hun. Pa lywodraeth bynnag a fo mewn awdurdod mewn gwlad sy'n werinol yn yr ystyr boliticaidd, ni chyfnewidia'r fframwaith mawr. Y mae hyn yn wir hefyd am y gwledydd hynny a elwir yn wledydd totalitaraidd. Y mae i bob gwlad ei pholisi tramor traddodiadol, ac anodd ydyw canfod cyfnewid- iadau hanfodol yn y polisi hwnnw o ganrif i ganrif. Fel enghraifft o hyn, sylwn ar rai o'r ffactorau sydd wedi llunio polisi Prydain Fawr. Fel gwlad ymerodraethol, y mae gan Brydain feddiannau ar draws y moroedd y mae hefyd yn rhan o gyfandir Ewrop. Drwy'r canrifoedd fe chwaraeodd ei rhan yng ngwleidyddiaeth Ewrop, ond heb esgeuluso buddiannau ei hymerodraeth. Rhaid oedd iddi, felly, amcanu at gadw'r ddysgl yn wastad, er mwyn defnyddio rhan o'i hadnoddau i warchod ei buddiannau yn Ewrop, a'r rhan arall i sicrhau Ue priodol ledled y byd. Camgymeriad ydyw tybio mai buddiannau economaidd ydyw'r rhai pwysicaf. Annibyniaeth a rhyddid ydyw buddiannau sylfaenol pob gwlad. Dyma'r buddiannau y mae Prydain wedi ymdçechu eu gwarehpd. Y ddolen gýdiol gryfaf á'n cysylltodd a'r Cÿfanŵ' ydyw'r Iseldiroedd. Drwy'r blynyddoedd yr ydym wedi gwrthwyn-