Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SOPHOCLES GAN D. EMRYS EVANS Antigone, gan Sophocles. Troswyd o Roeg gan W. J. Gruffydd. Cyfres y Werin. Gwasg Prifysgol Cymru. 3/6. GANED Sophocles yn y flwyddyn 497 C.C., a bu farw yn 405. Bu fyw, felly, bron drwy gydol y bumed ganrif, y ganrif fwyaf ei bri yn hanes Groeg ac Athen. Dywaid traddodiad ei ddewis yn arweinydd côr o fechgyn i ganu mawlgan am y fuddugol- iaeth a enillwyd ar luoedd Ymerodraeth Persia ger Salamis yn y flwyddyn 480. Bu farw ychydig o fisoedd cyn i Athen golli ei llynges ac ildio i Sparta yn niwedd y rhyfel alaethus a ymestynnai dros chwarter canrif. Felly ni chafodd brofi pryderon blynydd- oedd cyntaf y ganrif, na thrychineb yr ychydig flynyddoedd olaf. Cyfetyb ei fywyd hir i'r cyfnod a welodd ei ddinas yn ennill bri ac yn creu'r gwareiddiad uchaf a gafodd ein byd ac os barnwn ni, o edrych yn ôl, iddo ddechrau dihoeni gyda marwolaeth y gwleidydd Pericles, yn 428, eto nid oes raid credu bod Sophocles a'i gyfoeswyr yn ymwybod â hynny. Diddig yw'r gair a ddefnyddiodd y comedïwr, Aristophanes, i'w ddisgrifio; bu'n ddedwydd, medd traddodiad, yn ei fyw ac yn ei farw. Ef, wrth gwrs, yw un o'r triwyr anfarwol a gyfansoddodd eu trasiedïau yn Athen yn ystod y ganrif y ddau eraill ydoedd Aeschulos, a oedd yn hyn na Sophocles o ryw wyth mlynedd ar hugain, ac a fu farw yn 456, ac Ewripides, a aned ym mlwyddyn Salamis ac a fu farw flwyddyn neu ddwy cyn Sophocles. O'r tri nid oes fawr amheuaeth nad y mwyaf, fel dramodydd, ydoedd Sophocles. Nid oes ganddo ddyfnder dirnadaeth ei ragflaenydd mawr i ymgodymu â phroblemau bywyd dyn, a'i dynged yn rhychwantu'r cenedlaethau, nac ychwaith feddwl eiddgar, chwil- gar, beirniadol Ewripides. Ond ef yw'r mwyaf celfydd o ran techneg a saernïaeth ei ddramâu. Ef a wyr yn orau pa fodd i greu gwir effaith ddramatig, a hynny yn gynnil a diwastraff, heb alw am help crandrwydd a rhwysg Aeschulos* na rhamant- iaeth a rhethreg Ewripides. Sophocles, fe ddywedir, oedd y cyntaf i ddefnyddio trydydd actor, ac felly i roi Ue amlycach yn y ddrama i gymeriadau eilradd, a chymerth ofal y gwir artist i'w cyfleu yn fanwl fyw a chywir.