Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARLOESWYR 2. ALBERT MANSBRIDGE GAN BEN BOWEN THOMAS ^LYWAIS ddynion a adwaenai Albert Mansbridge yn nyddiau cynnar y WEA yn tystio bod ei frwdfrydedd a'i ymroddiad yn y cyfnod hwnnw yn aruthrol. Ni allai un rhwystr sefyll yn ei erbyn. Yn adeg ei aeddfedrwydd y cefais i'r fraint o'i adnabod gyntaf. Erbyn hynny o'r braidd na ellid dweud ei fod wedi ei ganoneiddio'n barod. 0 leiaf, ymhob Cynhadledd Flynyddol o'r WEA neu'r British Institute of AduU Education, disgwylid ei weld yntau'n urddasol ymysg yr aelodau, yn llywyddu un o'r prif gyfarfodydd, neu ond odid yn traddodi'r anerchiad agoriadol. Gyda phob caredigrwydd gellid dweud bod ei arweiniad yn y Cynadleddau hyn wedi diflannu, ond bod ei werth hanesyddol a'i ddylanwad ysbrydol yn aros. Hoffai yntau dderbyn yr wrog- aeth a haeddai, cyfarfod â hen gydweithwyr a lledu cylch ei adnabyddiaeth ymysg y bobl ieuainc a oedd yn dod ymlaen. I'r rhain ni fu neb caredicach. Gwrandawai arnynt-mewn dull OIympaidd-cefnogai hwy, ac yr oedd yn barod i'w helpu â chyngor ac â gwybodaeth am ddigwyddiadau'r amser gynt y bu a fynnai ef â hwy. Erbyn hynny, fodd bynnag, yr oedd cylch ei weithgarwch uniongyrchol mewn lleoedd eraill, gyda'r Co- operative Permanent Building Society, y Central Library, Addysg Morwyr, Cronfa Thomas Wall, Pwyllgorau'r Eglwys a'r Wladwr- iaeth, ac yn anad dim ysgrifennu. Ei gyfraniad hanesyddol mwyaf oedd cychwyn y WEA. Gwnaeth hyn yn 1903, ac ef oedd ei ysgrifennydd cyffredinol cyntaf hyd 1915 pryd y trawyd ef yn wael iawn. Sut y cafodd y weledigaeth ? Ei dystiolaeth ef ydyw mai gweledigaeth lyth- rennol ydoedd-gweledigaeth a ddaeth iddo wrth wrando Charles Gore yn darlithio ar Epistolau Paul. Wedi derbyn y weledigaeth, ni fu'n anffyddlon iddi ond yn hytrach ymroi'n ddygn i'w syl- weddoli. Byrdwn y weledigaeth oedd bod angen dwyn Sefydliadau addysg a Chymdeithasau'r werin i berthynas fywydol, gydradd