Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FY NIFYRRWCH GAN J. O. WILLIAMS RHYWBETH iddo fo'i hunan ydyw hobi dyn, y difyrrwch hwnnw a'i gwna'n swil, rywsut, o sôn amdano tu allan i gylch ei ffrindiau agosaf. Dacw'r athro asetig ym mhridd ei ardd yr ysgolhaig a'r gramadegydd gyda'i glociau y gweinidog myfyrddwys yn sleifio i'w weithdy. Boddio a wnânt ryw nwyd a chywreinrwydd a'u gyrr ar drywydd rhywbeth hollol groes i'w galwedigaeth. Onid ydyw'n rhyfedd fel y bydd dyn yn trafferthu a gwario a chwysu'n siriol a di-dâl wrth ddilyn yr hyn a eilw'n hobi ? Bid a fo am hynny, ei dâl ydyw diwallu'r nwyd a aflonydda arno, a phrofi, gyda hynny, y bodlonrwydd hwnnw a'i gwna'n greadur rhywiocach gyda'i waith bob dydd, a chyda phawb arall o'i amgylch. Ac y mae hynny'n rhinwedd go fawr. Yn wir, peth difyr dros ben ydyw gweithio ar rywbeth heb raid, nac amser pendant yn gyrru arnom i'w orffen. Awn at y gwaith hwnnw pryd y mynnwn, a llosgwn y gannwyll yn y ddeu- pen, o gael y fath hwyl arno a'i weld yn tyfu dan ein dwylo. Chwardded a chwarddo cwyned a fynno ymlaen yr â?r gwaith, a chadwed pob un i ffwrdd o weithdy'r dyn pan fo nwyd ei hobi'n llosgi'n fflam. Fel hyn yn union y teimlaf innau wrth wneud llong, pan fo darn solet, glân, o ffawydd melyn dan fy nwylo, a llong ar y blociau. Llong go iawn, cofiwch chi, llathen ac ychwaneg o hyd, yn drwynfain a lluniaidd i nofio a symud yn osgeiddig ar y d\vr. Yn wir, nid yw gwneud bwrdd, stôl, mainc a mân ddodrefn ty, er mor ddifyr y gwaith a defnyddiol y cynnyrch, yn ddim wrth y difyrrwch a gaf wrth wneud llong. Onid oes digon o bob math ar ddodrefn i'w gweld mewn siopau ar hyd ac ar draws gwlad, a'r rheini'n llwythog o ffrwyth diddychymyg peiriannau'r gwneuthurwyr dodrefn ? Pethau defnyddiol, wrth gwrs, ie, a'u coed tri-phlyg wedi eu lIathru'n ddeniadol Ond rhaid mynd at fôr i weld llong, ac ehangder môr sy'n gweddu iddi hi. Tros fôr y mae'r anghynefin a dieithrwch syndod a rhyfeddodau Am hynny, y mae llong i mi bob amser yn deffro ac yn cyffroi'r dychymyg, pan edrychaf arni'n blaen-