Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Er mor anhydrin ac er mor ddi-fudd yr olwg ydoedd yr hen geincen, yn wir, cafwyd bron gymaint o bleser wrth ei naddu'n sylfaen goleudy ag a gafwyd wrth droi'r ffawydd melyn hyfrytaf a'r mahogani coethaf yn ddeunydd llong. Ond draw, rywle ar y gorwel, mi welaf eto long. Hen sgwner nobl ydyw a'i hwyliau'n llenwi yn y gwynt. Ni wn a ddaw goleudy eto i'w chadw rhag y creigiau Yr oedd awydd adeiladu yn gryfach ynof nag awydd dinistrio. Medru codi pont a medru codi ty oedd fy hoff freuddwyd. Bûm am wibdaith droeon yn edrych ar hynny o bontydd oedd yn fy nghyrraedd, a darganfyddais o'r diwedd pa fodd yr adeiladwyd hwy, a phaham y safent. Codais ugeiniau o bontydd dros fân aberoedd, pontydd bychain o gerrig mân y gallai gwa-theg gerdded drostynt yn hawdd. Weithiau, gwnawn bont lydan dros aber, ac ar honno codwn dy bychan a fyddai'n ddiddos drwy'r gaeaf- gyda charped o dywyrch trum esmwyth sych ar ei lawr. Wrth weled fy muriau, dywedai pawb y gwnawn saer maen dan gamp, a chwilid fy achau'n fanwl, i weled i bwy y tebygais. Pan fethid cael neb wedi arfer adeiladu ymysg fy hynafiaid, ond pawb wedi tynnu i lawr, ysgydwai pobl eu pennau, a dywedent na safai fy muriau'n hir.— 0. M. Edwards. Pe collai'r Cymry Cymraeg eu hiaith, a gollai'r Cymry di- Gymraeg eu Cymreigrwydd ? Dyna gwestiwn i feddwl yn galed uwch ei beti.