Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYFODOL DE-DDWYRAIN ASIA GAN T. HUGHES GRIFFITHS Y MAE De-Ddwyrain Asia, fel y gwelsom eisoes, ym merw chwyldro cymdeithasol ar raddfa gynhwysol, fawr. Symud y mae'r gwledydd yno o gyflwr ffiwdal i amodau modern o fyw. Y mae eu dyfodol fel gwledydd a rhanbarth yn dibynnu'n hollol ar y ffordd a ddewisant i ddringo allan o'u caethiwed i ryddid amgenach. Y mae'r problemau a'u hwyneba yn aruthrol fawr. Yn economaidd, beichir hwy yn drwm gan dlodi, newyn, clefydau a phrinder addysg, ac nid oes iddynt-mwy nag i unrhyw ranbarth na gwlad arall-eu llwybr hawdd ac esmwyth i fywyd diwyll- iannol rhagorach y sustem fodern. Trwy chwys eu hwynebau y bwytânt eu bara fel y gweddill ohonom yn y blynyddoedd a ddaw, a bydd galw arnynt am ymdrechion caled a pharhaus. Gwelsom hefyd, yn wleidyddol, dwf y mudiadau cenedlaethol yn y rhan- barth. Y mae cenhedloedd De-Ddwyrain Asia'n benderfynol o fod yn rhydd o'u sustemau trefedigaethol, a gweithio allan eu tynged eu hunain drwy eu gwladwriaethau arbennig eu hunain. Gyda'r eithriad o Malaia ac Indo-China, enillasant eisoes eu hannibyniaeth wleidyddol, a sylfaenant eu gwladwriaethau ar batrwm y Gorllewin. Ond un peth, ysywaeth, yw cyhoeddi gwladwriaeth ddemocrataidd, a pheth hollol wahanol yw trefnu a hyfforddi cenedl yn economaidd, yn gymdeithasol, yn addysg- iadol ac yn foesol, er mwyn datblygu'n ddiogel y ffordd wladwr- iaethol ddemocrataidd o fyw. Hyn a rydd gyfle ddigon i'r frwydr ideologaidd rhwng Dwyrain a Gorllewin ledaenu yn y rhanbarth, heblaw ei sefyllfa ddaearyddol a chadofyddol (strategic), oher- wydd y mae Rwsia'n ymwybodol, a'r Unol Daleithiau yn dyfod yn ymwybodol, o'r ffaith fod De-Ddwyrain Asia yn debyg iawn o benderfynu tynged Ewrop ac Affrica, os nad y byd yn gyfan. Saif De-Ddwyrain Asia, felly, ar y groesffordd. Ar y naill law ceir y ffordd gomiwnyddol, ac ar y llall y ffordd ddemocrat- aidd. A oes ffordd arall hollol annibynnol ar ddylanwad Rwsia ac ar wledydd y Gorllewin, tybed ? O'r braidd y gall pobl De-Ddwyrain Asia eu codi eu hunain i lefelau modern o fyw yn eu nerth eu hunain. Y mae dros 570 miliwn o drigolion yn y