Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyflwr trefedigaethol. Ond credaf, yn bennaf dim, mai gwen- didau polisi tramor gwledydd y Gorllewin sy'n cyfrif am lwydd- iant Comiwnyddiaeth yn Asia, fel yn y rhanbarth arbennig sydd dan sylw. Nid areithiau gwleidyddol, er cystal y rheini, sydd arnynt eu heisiau, ond cynhorthwy economaidd digonol, er mwyn dileu tlodi, newyn, anllythrenogrwydd, a chlefydau ymhlith y brodorion. Tlodi sy'n rhoi cyfle i Gomiwnyddiaeth i atal gwaith gwladweinyddion democrataidd fel Nehru. Yn y gors y genir y pryfyn gwenwynllyd, onid e ? Ond beth am ddyfodol gweriniaeth ddemocrataidd yn Ne- Ddwyrain Asia ? (Fw barhau) Dywedir yn gyffredin mai aralleiriad, yn hytrach na chyfieith- iad, o benillion Omar Khayyâm a wnaeth y bardd Saesneg, Edward Fitzgerald, ond cyfieithodd John Morris Jones hwynt i'r Gymraeg ar eu hunion o'r Berseg. Mewn llythyr yn The Listener, Tachwedd 1950, cynigiwyd cyfieithiad llythrennol manwl o un pennill yn Saesneg A little ruby wine I crave and book of Verses Sufficient to preserve life let it be and half a (loaf of) bread And this that I and thou sitting in the wilderness Was sweeter than the realm of a sultan. Dyma'r pennill fel y ceir ef yng ngwaith Fitzgerald A Boolc of Verses underneath the Bough, A Jug of Wine, a Loaf of Bread-and Thou Beside me singing in the Wilderness— Oh, Wilderness were Paradise enoic A dyma gyfieithiad John Morris Jones Ychydig wridog win a llyfr o gân, A thorth wrth raid, a thithau, eneth lân, Yn eistedd yn yr anial gyda mi- Gwell yw na holl frenhiniaeth y Swltân.