Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDD O HAF GAN NANW SILYN CERDDAIS yn araf a thrist hyd lan y môr. Yr oedd yr hin yn oer a'r gwynt enbyd yn chwythu'r cymylau duon yn yr awyr, a'r tonnau mawr cwynfanllyd yn rhuo ac yn torri ar'y lan. Ofnadwy oedd gwrando ar sẃn y gwynt yn wylo, a dwndwr y môr yn curo ar y traeth. Ymdrechais fy amddiffyn fy hun rhag y storm drwy lechu o dan gysgod y creigiau, ond yr oeddynt yn oer ac yn datgan creulondeb y môr a'r gwynt. Sefais ennyd i syllu ar y gorwel, a gweled creigiau duon Ynys Dulas yn y pellter yn edrych yn ddinistriol ac yn fygythiol. Trois fy nghefn ar yr ynys a cherdded at ogof fechan, ac eistedd tu mewn iddi. 'Roedd arnaf eisiau distawrwydd i feddwl ac i gofio am ryw ddydd o haf hyfryd a oedd wedi mynd heibio. Daeth rhyw lawenydd i'm calon, a rhyw gynhesrwydd rhyfedd i fyw fy esgyrn oerion, tra meddyliais am y dydd pan eisteddwn yng nghwmni fy nhad tu allan i'r ogof fechan, a'r haul yn tywynnu'n siriol a chynnes, a'r awyr las uwchben yn ei hadlew- yrchu ei hun yn y tawelfor otani, a dim ond symudiad tyner y tonnau mân yn sibrwd ar y lan i dorri'r distawrwydd. Eisteddem yno gyda'n gilydd yn edrych ar y môr, ac yn syllu ar Ynys Dulas a'i phrydferthwch creulon, yn oeraidd a dychrynllyd hyd yn oed pan dywynna'r haul arni. Torrodd fy nhad y distawrwydd, am ennyd, â llinell o farddoniaeth am ramant Ynys Dulas, ac wedyn llonyddwch a distawrwydd unwaith eto. Cerddasom adref fin nos ag awel bêr i'n hwynebau, a murmur tawel y môr i'n cefnau, a'r haul yn taflu goleuni euraid ar y coed wrth fachlud. Dywedodd fy nhad yn ddistaw­ Heno, daweled yw'r forlan, Iseled yw suon y don Deuthum ataf fy hun yn sydyn wrth gofio'r geiriau. Gwelais fy mod ar fy mhen fy hun yn yr ogof oer, a'r gwynt yn chwythu tu allan, a'r môr yn rhuo yn ofnadwy, ac Ynys Dulas yn edrych yn ddu a chreulon yn y pellter. (Cyhoeddodd Silyn ei gan, Rhiain Ynys Dulas'" yn Y Llenor, Haf 1930)