Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGU CYMRAEG AR Y GRAMOFFON GAN D. JONES-DAVIES MEWN pamffled a gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ôl gan y Bwrdd Addysg (fel yr adwaenid y Weinyddiaeth bryd hynny), dyma a ddywedir parthed dysgu ieithoedd Dysgir ieithoedd drwy eu defnyddio dylid ceisio arfer defnyddio iaith dramor ar lafar. Yn y lle cyntaf, dylai athro amcanu dysgu i'w ddisgyblion siarad yr iaith estron, ond ar wahân i hynny, y ffordd gyflymaf i ddysgu darllen ac ysgrifennu iaith yw dysgu ei siarad." Er bod y safbwynt hwn bellach bron â bod yn ystrydebol i unrhyw un a gymer y diddordeb lleiaf mewn dysgu ieithoedd, eto rhyfedd gymaint o bobl ifainc y clywir amdanynt sy'n medru darllen ac ysgrifennu Cymraeg wrth adael yr ysgol, ac eto heb fedru siarad yr iaith. Ac, wrth gwrs, marw yw iaith a ddarllenir ac a sgrifennir yn unig ac oherwydd hynny nid digon cymryd y llwybr hwn i geisio cadw'r Gymraeg. Ond nid yn unig fel un o garedigion yr iaith y gwêl unrhyw Swyddog Addysg Bellach yr angen am ddyfeisio ffordd effeithiol i ddysgu i bobl siarad Cymraeg. Ni ohirir Dydd Barn yn hanes unrhyw un a gymer ran mewn Addysg Bellach y mae'n Ddydd Barn arno'n feunyddiol, oherwydd disgyblion gwirfoddol a ddaw i Ddosbarthiadau Nos a Chlybiau, ac oni ddiwellir eu gofynion, buan iawn y bydd rhaid cau'r Dosbarth. Ar hyn o hryd, credaf fod mwy o alw nag erioed am gyfleusterau i ddysgu Cymraeg yn Sir Gaernarfon gan bobl mewn oed a'u hiaith yn Saesneg, llawer ohonynt yn Gymry o waed. Ac nid dysgu na sgrifennu na darllen yr iaith a fynn y bobl hyn, ond dysgu ei siarad a'm profiad i ydyw mai anodd iawn ydyw dyfod o hyd i athro a fedr wneuthur hyn yn effeithiol, yn enwedig â phobl mewn oed. Am y rhesymau uchod, deliais ar y cyfle cyntaf i wrando ar y Recordiau Dysgu Cymraeg a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Welsh Economic Development A8sociationt Ø., Caernarfon. Y mae'r hoìl gwrs ar bymtheg o recordiau deuddeng modfedd