Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fod y recordiau yn profi hynny, nac ychwaith fod llawer o'r hyn a glywn ar y radio yng Nghymru, yn enwedig darllenwyr y Newyddion. Credaf fod llais yr hogyn bach yn arbennig o wrthun, ac yr oedd prifathro ysgol lle y defnyddir y recordiau yn dweud yr un peth wrthyf yn ddiweddar, ac yn sôn fel y byddai'r plant yn chwerthin o hyd pan fyddai'r bachgen yn siarad. Clywais innau ferch mewn oed yn ddiweddar yn ceisio dysgu Cymraeg drwy gymorth recordiau, ac wedi gwrando droeon ar y sgwrs yn ceisio darllen gyda'r lleisiau ar y record, a sylwais iddi gael anhawster mawr i ddilyn llais y bachgen. Yn wir, nid wyf yn hollol sicr ai doeth ydoedd cael cymaint o leisiau yn y gwersi o gwbl; credaf fod hyn yn gwneud y gwaith o ddysgu'r iaith yn anos nag yr oedd eisiau. Teimlaf heb unrhyw amheuaeth fod y recordiau yn haeddu cymeradwyaeth uchel, ac y mae pawb a fu â llaw yn eu cyhoeddi yn haeddu diolchgarwch y genedl am eu cymwynas iddi. Edrydd W. J. Gruffydd hanes John Morris-Jones yn gwrando ar un o bregethwyr mawr Cymru, a'i glywed yn dywedyd rhyw- beth tebyg i hyn Y mae ymarfer â dyletswyddau'r bywyd crefyddol ac ufudd- hau i'w orchmynion yn sicr o gyfrannu i'r credadun y gallu i ddyfod i ddyfnach ymwybyddiaeth o wirioneddau sylfaenol ei grefydd ac i amgyffred yn gliriach yr egwyddorion hanfodol sy'n gorwedd o dan ei gofynion." Yn y ty ar ôl yr oedfa, dyfynnodd Syr John y frawddeg hon, a gofynnodd i'r pregethwr:- I beth yr oeddech-chi'n cwmpasu cymaint i ddweud peth mor syml ? Paham na fuasech-chi'n dweud yn fyr ac yn blaen fod byw crefydd yn help i'w deall ? Mewn llythyr a sgrifennodd at ei frawd Richard yn Llundain ym mis Ebrill 1741, dywedodd Wüliam Morris, un o Forysiaid Môn, mai o Ddülyrf y dérbyttiai pobi Cáefgybi eu bara peilliaid, neu fara gwyn.