Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS DIOLCH o galon i bawb ohonoch a fu'n holi yn fy nghylch tra bûm yn yr ysbyty. Y mae'n dda gennyf allu dweud fy mod wedi gwella'n ardderchog erbyn hyn, ac yn mwynhau bywyd a gwaith unwaith eto. Yr oedd yn wir ddrwg gennym glywed am farwolaeth Cad- eirydd Cangen WEA Tegeingl-Robert Williams, Ffynnongroew. Yr oedd yn un o'r ychydig yn sefydlu Dosbarth Ffynnongroew a Changen Tegeingl. Gwnaeth lawer o waith da yn y rhan Gymreig yna o Sir Fflint. Bu'n aelod ffyddlon o'r dosbarth ar hyd y blynyddoedd, a chyfrannodd yn helaeth at ledaenu dylanwad y WEA. Cydymdeimlwn yn fawr â'i weddw a'r plant. Bydd yn golled fawr i bob mudiad cynyddol yn y cylch. Y mae'r Ysgolion Bwrw Sul a drefnir o dro i dro ar gyfer ieuenctid yn dyfod yn fwy poblogaidd. Derbyniwyd tros 80 o geisiadau am leoedd yn yr Ysgol a gynhaliwyd ym Mhensarn, Abergele, ym mis Chwefror. Nid oedd lle i bawb, gwaetha'r modd, ond daeth 32 yno a chafwyd Ysgol ragorol. E. Cadvan Jones o'r Blaenau oedd y darlithydd, ac oherwydd absenoldeb yr Ysgrifennydd cymerodd ef a Miss J. Allford yr holl gyfrifoldeb am y trefniadau, ac aeth popeth ymlaen yn esmwyth, diolch iddynt hwy ill dau. Cynhaliwyd Cynhadledd Undydd ddiddorol a phwysig iawn yn Nolgellau ar y 3ydd o Fawrth, ar Addysg Pobl mewn Oed." Cynhadledd ar gyfer athrawon rhan-amser y WEA, a dosbarth- iadau allanol y Brifysgol oedd hon yn arbennig, a daeth cynulliad da iawn ynghyd. Trefnwyd hi gan y Pwyllgor Addysg mewn cydweithrediad â'r WEA a Cholegau Aberystwyth a Bangor. Agorwyd y gynhadledd ag anerchiad grymus gan D. W. T. Jenkins ar Bwrpas Addysg Pobl mewn Oed," a chadeiriwyd gan B. Maelor Jones, Cyfarwyddwr Addysg y Sir. Dyma enghraifft wych o gydweithio hapus rhwng y gwahanol adrannau sy'n gyfrifol am y gwaith.