Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD Gan D. T. GUY Y MAE Cangen Llanelli a'i Dosbarthiadau, a Changen Abertawe a'i Dosbarthiadau, yn haeddu ein llongyfarchiadau a'n diolch cynhesaf am y ffordd ardderchog y trefnasant eu cyfar- fodydd, Mawrth 2 a 3. Y diwrnod cyntaf, rhoes Maer Llanelli groeso dinesig i Lady Simon (un o Is-Lywyddion y WEA), a thrannoeth rhoes Maer Abertawe groeso cyffelyb iddi ar ei hym- weliad cyntaf â'r dref honno. Yr oedd dau Aelod Senedd-hen fyfyrwyr y WEA-sef Percy Morris a David Mort, yn bresennol pan groesawyd hi i Abertawe. Cafwyd cynulliadau da iawn yn y cyfarfodydd yn y ddau le. Hwn oedd ymweliad cyntaf Lady Simon â Deheudir Cymru, a dywedodd ei bod wedi ei fwynhau yn fawr. Yn ei hanerchiad pwysleisiodd y rhan bwysig sydd gan y WEA i'w chwarae ym mywyd cymdeithasol cymhleth y dyddiau hyn. Bydd bywyd gweithgar, prysur, tymor y gaeaf wedi dyfod i ben erbyn y bydd y rhifyn hwn o Lleufer wedi ei gyhoeddi, a bydd tymor prysur arall yn ein hwynebu. Cynhelir dwy Rali Flynyddol myfyrwyr ac athrawon Dosbarthiadau'r WEA a'r colegau yng Nghaerdydd Mai 19, ac yn Abertawe, Mehefin 30. Yr Arglwydd Macdonald o Waenysgor fydd y siaradwr gwadd yng Nghaerdydd, ac y mae C. R. Morris, Is-Ganghellor Prifysgol Leeds, wedi ei wadd i siarad yn Abertawe. Cynhelir Ysgolion Haf Dibreswyl o dan Goleg Harlech, wedi eu trefnu gan ganghennau'r WEA, yn LlanelU, Castell Nedd, Pontardulais, Glyn Nedd, Llwchwr, Rhydaman a lleoedd eraill. Y mae'r Canghennau ar hyn o bryd yn brysur yn trefnu dar- lithwyr ac yn paratoi eu rhaglenni. Yn ystod yr wythnosau nesaf, cynhelir tair o Ysgolion Bwrw Sul o dan nawdd y WETUC. Ebrill 14-15, cynhelir un yn y Barri, a James Lanner, Darlithydd mewn Economeg a Gwyddor Cymdeithas yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn traddodi tair darlith ar Safle Economaidd Prydain a Phroblemau Ailarfogi."