Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH GAN I. DAN HARRY DERBYNIWYD hanner cant o fyfyrwyr i Goleg Harlech ar ddechrau'r flwyddyn hon ym mis Hydref, 1950. Daeth y mwyafrif, rhyw ddeuddeg ar hugain, o Gymru. O'r gweddill, yr oedd saith o Loegr ac un ar ddeg o wledydd tramor. Deuddeg merch a gofrestrwyd, tair o Gymru, dwy o Loegr, un o Awstralia, a chwech o'r Cyfandir-o Sgandinafia, Awstria, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Ffrainc á Sbaen. Sicrhawyd felly barhad y bywyd amrywiol a Uiwgar hwnnw sydd erbyn hyn yn rhan o draddodiad Coleg Harlech, ac yn ôl y traddodiad hwn daeth y myfyrwyr at ei gilydd mewn byr amser i drefnu eu bywyd cymdeithasol yn ei wahanol agweddau. Yng Ngholeg Harlech, rhan hanfodol o brofiad a hyfforddiant pob myfyriwr ydyw'r cyfle a'r cyfrifoldeb o hyrwyddo gwaith y gwahanol gymdeithasau sy'n adlewyrchu gwahanol ddiddordeb- au'r myfyrwyr. Cyfeiriais at eu gwaith a'u harwyddocâd yn rhifyn olaf Lletjfer, a bodlonaf y tro hwn ar ddweud eu bod eleni eto wedi trefnu rhaglenni diddorol, a'i bod wrthi'n pwyll- gora'n rheolaidd yn .ôl dull a defod pob cymdeithas.a ymfalchïa yn ei hurddas a'i threfhusrwydd. Trwy gyfrwng y cymdeithasau hyn gall y myfyriwr ehangu ei orwelion, a chael golwg ar diriogaethau ym myd diwylliant nas gwelodd ac nad ymddiddorodd ynddynt o gwbl cyn cyrraedd Coleg Harlech. Gyda chydweithrediad y Gymdeithas Gerdd, er enghraifft, trefnwyd eisoes bedwar Cyngerdd o'r safon uchaf, yn cynnwys rhaglen o gerddoriaeth i'r ffidü a'r piano gan Miss Rapaport a Madame Else Cross, dwy athrawes o'r Academi yn Llundain datganiad o chamber music gan y British String Quartette noson ar y piano gan Reginald Paul; a rhaglen o ganu "Music for a While" gan gwmni o ddatgeiniaid medrus a enillodd galon ac edmygedd y gynulleidfa gyfan. Mewn cangen arall o'r celfyddydau, sydd eto'n ddigon gwan ei chyflwr yng Nghymru, trefnwyd arddangosfa o ddarluniau a bwrcaswyd yn ddiweddar gan Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru. Yn ystod yr arddangosfa cafwyd cyfres o ddarlithia.u gan Miss Naish, un o ddarlithwyr Cyngor y Celfyddydau, a bu o wasaHaéîbh mawr yn dehongli arwgrẄocái y darluniau.