Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Goronwy Owen, gan W. D. Williams. Gwasg y Brifysgol. 2 /6. Magodd Cymru yn y ddeunawfed ganrif lawer o wýr gwerth eu cofio, ac un o'r teilyngaf ohonynt oedd Goronwy Owen. A da oedd dewis y gwr mawr hwn yn destun Llyfr Gwyl Ddewi Prifysgol Cymru. Dywaid yr awdur mai ar gyfer plant o un ar ddeg i bymtheg oed y darparwyd ef, ond y mae'n llyfr i bob un ohonom, gan fod ynddo ddetholiadau o farddoniaeth a rhydd- iaith orau Goronwy, a rhoddir ei hanes yn gryno o'i grud i'w fedd. Disgrifir ei blentyndod hapus ym Môn, a'i ddyddiau ysgol yn Llanallgo, ym Mhwllheli, ac yn Ysgol y Friars ym Mangor. (Y mae'n debyg mai yn 1737 yr aeth i Fangor, fel y dywaid Goronwy ei hun yn y llythyr ar t. 16, ac mai gwall sydd ar t. 12). Aeth i Rydychen, ond byr fu ei arhosiad yno-rhyw bythefnos yn unig, medd rhai haneswyr-ond yr oedd y blynyddoedd a dreuliasai yn Ysgol y Friars wedi ei wneuthur yn ysgolhaig gwych yn y clasuron. Yna aeth yn athro ysgol i Bwllheli a Dinbych, a chafodd gyfle i ymhoffi yn llenyddiaeth Cymru a chael ei drwytho mewn diwyll- iant cefn gwlad. Yr oedd yn dda iddo ef, ac i farddoniaeth Cymru, wrth y cyfle hwn, oherwydd ar ôl ei urddo'n offeiriad tair wythnos yn unig a gafodd wasanaethu yng Nghymru. Yn ei blwyf genedigol yn Llanfair Mathafarn Eithaf y bu hyn, ond disodlwyd ef yno i wneuthur lle i gurad mwy dylanwadol, a dechreuodd Goronwy ar y symud parhaus a nodweddodd weddill ei fywyd tymhestlog. Bu'n gurad yng Nghroesoswallt, Uppington a Walton, a'r un yw ei hanes yn y tri lle-methu byw, dyheu am Ie yng Nghymru, darganfod trysorau ein llenyddiaeth, a chyfansoddi ei hun fardd- oniaeth a bery tra pery'r iaith. Yn 1755 gwahoddodd Richard a Lewis Morris ef, ar ran Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, i Lundain i fod yn ysgrifennydd ac yn gaplan i'r Gymdeithas. Ond ar ôl iddo gyr- raedd, nid oedd dim paratoad ar ei gyfer, a gorfu i Oronwy chwilio am guradiaeth eto, a chafodd un yn Northolt. Fe'i siomwyd yn y Morysiaid, ac fe'u siomwyd hwythau ynddo yntau, a digio a chymodi bob yn ail fu eu hanes. Methai eto yn Northolt â chael