Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gorffen tyfu. A cholled i'n llenyddiaeth fyddai gweld dawn William Jones yn dangos unrhyw arwydd o henaint. Sut bynnag, cyfrol o delynegion yw hon y mae yn wiw gennym ei chael ar ein silffoedd. Gellir adnabod priod lais yr awdur yn y gân ganlynol, sydd yr un pryd yn rhoddi i ni, ddarllenwyr LLEUFER, fflach o olau ar ystyr addysg (Er cof am Syr John Morris-Jones) R oedd yno wyr dysgedig iawn Yn sychlyd draethu fore a nawn. Wrth wrando arnynt yn ein cur Gwyliem y cloc oedd ar y mur. Ond pan glustfeiniem ar Syr John Nid oedd diflastod dan ein bron. Cans pan ddyfynnai Wiliam Llyn Canai'r holl glychau yn gytûn. Ac yn sŵn pennill Tudur Aled Anghofiem am y meinciau caled. Y Bachgen Bach Toes, gan Nantlais. Llyfrau'r Dryw Bach. 2/6. Dyma gymwynas arall â phlant Cymru ac â'r iaith Gymraeg. Gwyr Nantlais i'r dim sut i ddiddori plant, ac y mae'r stori yma wedi ei gosod mewn penillion syml a fydd yn gymorth iddynt ddysgu darllen yn ogystal. Y mae'r darluniau lliw gan Mitford Davies yn wych, yn ôl ei arfer. LIyfr deniadol a buddiol dros ben. Gwyn eu byd, blant Cymru heddiw YN Y COLEG EUROS BOWEN R. BRYN WILLIAMS