Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llawlyfr Addysg Grefyddol, gan E. J. Jones. Gwasg Prifysgol Cymru. 6/ Ffiol Cysur, gan J. Lloyd Jones. Gwasg Gee. 2/6. Y mae dwy ochr i unrhyw wyddor o safbwynt athro-y gyntaf yw casglu'r wybodaeth a'r ail yw ei throsglwyddo. Gwyr pawb ohonom o brofiad chwerw, mi dybiaf, mor brin yw'r ail ddawn. Y mae croeso dwbl, felly, i'r gyfrol gyntaf hon, sydd yn awgrymu i athrawon ysgolion eilradd sut y gellir defnyddio cynllun y Maes Llafur, yn y flwyddyn gyntaf a'r ail." Gwaith y flwyddyn gyntaf yw mynd dros hanes bywyd yr Arglwydd Iesu Grist a rhydd yr awdur sylw helaeth i gefndir yr hanes, megis gwlad, crefydd, arferion, a phleidiau'r Iddewon, gydag awgrymiadau sut i gymhwyso'r wybodaeth at brif amcan y cwrs. Eir ymlaen oddi wrth hyn i ddelio â gweithredoedd yr Iesu, ei wyrthiau a'i ddywedion. Nid yw'r awdur yn ceisio bod yn oraclaidd bendant ar bynciau dyrys, eto nid yw'n gadael y sawl a fynn arweiniad yn ddigyfarwydd dyry syniad eglur o'i safbwynt ei hun yn gymorth i arall i ffurfio'i farn yntau Gwelir hyn yn arbennig yn ei ymdriniaeth ar y gwyrthiau. Llyfr yr Actau, mewn sylwedd, yw maes yr ail flwyddyn, ac yn ystod ei thymor cyntaf ceir gwersi ar y byd tu allan i Bales- teina a'r Eglwys Fore wedyn y digwyddiadau a drodd yr eglwys o fod yn sect Iddewig i fod yn fudiad byd-eang sydd dan sylw yn yr ail dymor a thair taith olaf yr Apostol Paul yn cloi gwaith y ddwy flynedd. Gellir cymeradwyo'r llyfr hwn yn galonnog, nid yn unig i athrawon ysgolion dyddiol, ond yn arbennig i awdurdodau'r Ysgolion Sul, a phawb sydd yn gyfrifol am addysgu nid yn unig yr Efengylau a Llyfr yr Actau, ond yr Ysgrythyrau, yn gyffredinol. Y mae'r gyfrol yn hwylus iawn i law a llygad, a throswyd y gwaith i'r Gymraeg yn gampus gan D. Simon Evans. Ffrwyth ymdeimlad yr awdur o'r diffyg yn ein llên 0 lyfr defosiwn hylaw i'w ddefnyddio gan gleifion yn yr ysbytai yw'r ail lyfr, a diau y bydd iddo groeso gan eraill a wybu'r un anhawster. Purion peth fyddai bod stoc o gopïau ar gael yn ein hysbytai er diddanwch ysbrydol y claf. Ceir ynddo weddiau, emynau, salmau, a hanesion byrion- a hefyd "Briwsion" wedi eu casglu gan Herbert Evans-a'r cwbl wedi eu pçintio yn hynod o gymen ar bapur da. D. R. AP-THOMAS