Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pan glywais frawddeg neu ddwy a hoeliodd fy sylw, a gwran- dewais i glywed beth a ddeuai nesaf. Daliais i wrando er fy ngwaethaf nes cyrraedd y diwedd. The Inspector CallsJ. B. Priest- ley oedd y ddrama-un o'r dramâu gorau y bûm yn gwrando arni erioed. Ac yn awr dyma gyfieithiad Cymraeg da iawn ohoni, o dan y teitl Yr Inspector. Dadlennu cymeriadau sydd yma hefýd, iddynt eu hunain ac i'w gilydd, nid mewn byd arall, ond yn hwn. Geneth ifanc sydd wedi gwneud amdani ei hun drwy yfed disinffectant, ac Inspec- tor y Polîs yn argyhoeddi aelodau teulu parchus o'r rhan a gymerth pob un ohonynt yn achosi ei marwolaeth. Mae yna filiynau o rai tebyg yn aros efo ni o hyd, y cyfan wedi ym- blethu â'n bywydau ni 'Rydym ni'n aelodau o un corff. 'Rydym ni'n gyfrifol am ein gilydd." Ystrydeb fyddai dweud bod y ddrama hon gystal â phregeth "-y mae'n well pregeth na naw o bob deg a glywais i erioed. Ac y mae'n fyw ddramatig ar hyd y ffordd. Wedi'r dadlennu, daw ysbaid o ymgysuro wedi deall mai twyllwr oedd yr Inspector, yr hen bobl yn ymgaledu drachefn mewn hunan- foddhad, ond y bobl ifainc, â chydwybodau tynerach, yn teimlo'u heuogrwydd gymaint ag erioed. A'r cwbl yn ein paratoi ar gyfer y diweddglo annisgwyliadwy, dychrynllyd. Drama wych ydyw hon. Termau Technegol. Gwasg Prifysgol Cymru. 3/6. Yr oedd gwir angen am lyfr fel hwn, yn rhoddi cyfieithiadau Cymraeg o dermau technegol Saesneg., Ond teimlo'n siomedig ynddo yr wyf i. Pan gyhoeddwyd Orgraff yr laith Gymraeg (1928), yr oedd holl athrawon Cymraeg colegau'r Brifysgol wrth eu henwau wrth ei gefn, ac yn hawlio ein hymddiried ond yn ddi- enw y cyhoeddir hwn, ac ni wyddom faint o ymddiried i'w roi ynddo. Y mae peth o'i gynnwys nad yw'n tueddu i fagu ymddiried ynddo o gwbl, beth bynnag. Mi ryfeddais weld cyfieithu tin yn alcan (!), a Phwyllgor yr Orgraff yn dweud alcam (nid alcan)," a Geiriadur mawr y Brifysgol yn dweud ei fod yn gytras ag alcemi." Gonestrwydd eto, ac Orgraff yr Iaith Gymraeg yn dweud "onest," ac mai tafodieithol ydyw'r "g". Ni hoffais sero diamod am absolute zero chwaith-cyfieithiad hollol beiriannol o'r gair absolute beth am sero eithaf" ?