Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG HARLECH YR WYTHNOS GYMRAEG YSGOL HAF BRESWYL AWST llfed-18fed Wythnos hyfryd o ddysg a seibiant ger môr a mynydd yn Harlech CYRSIAU— 1. Cefndir Llenyddol y 18fed Ganrif. (Mr. D. Tecwyn Lloyd, B.A.). 2. Cerdd Dant. (Parch. Gwyndaf Evans, B.A.) 3. Y Ddawns Werin. (Mrs. Gwenllian Roberts a'r Delynores Nansi Richards). 4. Y Ddrama Fodern yng Nghymru. (Mrs. Irene Edwards). 5. Cyfraniad Cymru i Feddyleg Byd. (Mr. Gwyn Erfyl Jones, B.A.) 6. Yr Anterliwt a'r Ddrama yng Nghymru. (Mr. G. G. Evans, M.A.) Hefyd yr Wythnos Ddrama (Gorff. 28-Awst 4) a'r Wythnos Saesneg (Awst 4-18) gyda dewisiad o bump o Gyrsiau. Manylion oddi wrth yr Ysgrifennydd, Coleg Harlech, Harlech, Meirion YSGOLORIAETHAU Cynbelir Deunaw o YSGOLION HAF y WEA ym Mhrydain, mewn gwahanol fannau, rhwng Gorffennaf 8 a Medi 1, 1951. Darperir Ysgoloriaethau i alluogi aelodau o bron bob UNDEB LLAFUR fyned i'r Ysgolion hyn yn ddi-dâl. Y mae gan y COLEGAU Ysgoloriaethau i rai sydd wedi bod yn aelodau o'u Dosbarthiadau Allanol, ac y mae gan y WEA hithau ychydig Ysgoloriaethau ar gyfer Swyddogion ac Aelodau'r Canghennau. Darperir hefyd ychydig Ysgoloriaethau i fyfyrwyr o'r Dos- barthiadau gael blwyddyn yng NGHOLEG HARLECH, neu GOLEG RUSKIN, RHYDYCHEN. Hefyd, ceir Ysgoloriaethau i rai dros 25 mlwydd oed i gymryd CWRS TAIR BLYNEDD mewn unrhyw GOLEG PRIFYSGOL yn y wlad. Os mynnwch gael rhagor o fanylion, anfonwch air at Ysgrif- ennydd y Rhanbarth- un ai Rhoslas, Ffordd y Coleg, BANGOR neu 52 Charles Street, CAERDYDD.