Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRü CYF. VII HYDREF 1951 RHIF 3 NODIADAITR GOLYGYDD UN o'r cyfryngau pwysicaf ym myd Addysg heddiw ydyw Unesco, Trefniant Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig. Rhoddwyd cryn dipyn o sylw i'r Gymdeithas hon o dro i dro yn LLEUFER, mewn ysgrifau gan Gwilym Davies a Ben Bowen Thomas. Y mae'n llawer cryfach, ac yn Ilafurio'n llawer mwy effeithiol, na'r Pwyllgor Cydwladol ar Bethau'r Meddwl a sefydlwyd o dan Gymdeithas y Cenhedloedd ar ôl y Rhyfel Mawr cyntaf. Rhoddwyd cyweirnod ei gwaith iddi yn yr anerch- iad a draddododd y Prif Weinidog pan sefydlwyd hi mewn Cyn- hadledd yn Llundain yn Nhachwedd 1945 "Onid ym meddwl dyn y cychwyn rhyfeloedd ? gofynnodd. Corfforwyd y geiriau hyn yn y Rhagymadrodd i Gyfansoddiad Unesco Gan mai ym meddyliau dynion y mae rhyfeloedd yn cychwyn, ym meddyliau dynion hefyd y mae'n rhaid codi amddiffynfeydd heddwch." Codi amddiffynfeydd heddwch ym meddyliau dynion ydyw swyddogaeth arbennig Unesco. Cyferfydd mewn Cynhadledd bob blwyddyn mewn rhyw ran o'r byd neu'i gilydd eleni cyfarfu ym Mharis ym mis Mehefin. Heblaw ei Chyngor Cydwladol, a'i Swyddfa Ganolog ym Mharis, y mae ganddi ei Phwyllgorau Cenedlaethol mewn llawer gwlad, ac y mae Pwyllgor Cymreig Unesco yn nodedig o weithgar. Tua diwedd 1950, ac yn 1951, trefnodd Arddangosfa ddiddorol iawn ar Iawnderau Dyn, ac erbyn hyn y mae ambell wlad arall yn paratoi i'w hefelychu. Mewn Cynhadledd o'r Cenhedloedd Unedig yn Rhagfyr 1948, mabwysiadwyd Datganiad Cyffredinol o Iawnderau Dyn," yn nodi mewn 30 o Erthyglau y prif Iawnderau a ddylai fod yn eiddo i bob dyn ymhob rhan o'r ddaear. Cyfieithwyd y Datganiad hwn i'r Gymraeg gan T. H. Parry-Williams, a chyhoeddir ef gan Swyddfa Gyhoeddi'r Llywodraeth am dair ceiniog (yn Gymraeg a