Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BARDD CWSG GAN D. GWENALLT JONES GAN offeiriaid a gweinidogion y sgrifennwyd y rhan fwyaf o lyfrau crefyddol yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed. ond sgrifennwyd Gweledigaetheu'r Bardd Cwsc yn 1703 gan leygwr. Tua 1705 yr urddwyd Ellis Wynne yn offeiriad, ond cyfreithiwr oedd ef cyn hynny, yn ôl traddodiad. Beth bynnag am hynny, y mae'n amlwg wrth ei lyfr fod ganddo brofiad helaeth o'r byd. a'i fod wedi sylwi yn fanwl ar wedd, osgo ac ymddygiad dynion. Gwelir hefyd yn ei lyfr fod ganddo syniadau a safonau pendant, a rhaid i ddychanwr wrth y rhain. Gellir gweled hefyd ar ei lyfr ddylanwad y llyfrau a ddarllenodd. 'Roedd Ellis Wynne yn hoff o'r hen uchelwyr a arhosai yn eu cynefin ac a oedd yn garedig wrth eu tenantiaid Tyrd yn nês attynt, eb yr Angel, ac a'm cippiodd i wared yn y llen-gêl, trwy lawer o fwrllwch diffaith oedd yn codi o'r Ddinas, ac yn Stryd Balchder descynassom ar ben 'hangle o Blasdy penegored mawr, wedi i'r Cwn a'r Brain dynnu ei Lygaid, a'i berchenogion wedi mynd i Loegr, neu Frainc, i chwilio yno am beth a fasei can haws ei gael gartre, felly yn lle'r hên Dylwyth lusengar daionus gwladaidd gynt, nid oes rwan yn cadw meddiant ond y modryb Dylluan hurt, neu Frain rheibus, neu Biod brithfeilchion, neu'r cyffelyb i ddadcan campeu y perchenogion presennol. Yr oedd yno fyrdd o'r fath blasau gwrthodedig, a allasei oni bai Falchder, fod fel cynt yn gyrchfa goreugwyr, yn Noddfa i'r gwein- iaid, yn Yscol Heddwch a phob Daioni, ac yn fendith i fil o Dai bâch o'u Hamgylch. Dyna'r bywyd a garai Ellis Wynne. Un peth arall oedd yn dinistrio'r hen fywyd gwledig hwn oedd cau'r cytir, a bu'r cyf- reithwyr yn help mawr i'r landlordiaid i'w gau. Synnais ei glywed e'n galw'r Dwysoges felly, a'r Bon- 'ddigion mwya yno, yn Garn-lladron; Attolwg f'arglwydd, ebr fi, pa fodd y gelwch y Pendefigion urddasol yna yn fwy Lladron na 'Speilwyr-ffyrdd ? Nid wyti ond ehud, ebr ef Onid yw'r cnâ êl â'i gleddy'n ei law a'i reibwyr o'i ôl, hyd y byd tan ladd, a lloscí, a lladratta Teyrnasoedd oddi ar eu