Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TREFFYNNON YN 1800 GAN C. R. WILLIAMS I Y MAE'R ffordd o Dreffynnon i Faesglas yn disgyn i lawr rhiw serth he^bio i Ffynnon Gwenfrewi, ac ni bydd neb yn mynd i lawr y ffordd honno yn aml heb i rywun dynnu ei sylw at y Ffynnon enwog, ac y mae'r hanes diddorol am gychwyniad y ffynnon yn adnabyddus i bob plentyn ysgol yn Sir Fflint; Ond y mae pethau eraill yr un mor ddiddorol, â hanes rhamantus tu ôl iddynt, i'w gweld ar yr un ffordd a heb fod ymhell oddi wrth y ffynnon. Adfeilion yw'r rhain,ac efallai am y rheswm hwnnw ni chymerir nemor ddim diddordeb ynddynt. Eto i gyd y maent yn bethau o bwys yn hanes Treffynnon, oblegid dyma'r cwbl a erys o'r amser y bu Treffynnon yn un o ganolfannau pwysicaf y wlad yn y diwydiant copr. Nid adfeilion gweithfeydd copr ydynt i gyd yr oedd ffatrïoedd pwysig eraill yn y dyffryn byr a chul hwn heblaw gweithfeydd copr, sef melinau cotwm a gweithfeydd plwm a sinc. Ond gadawn i bobl eraill ddechrau dweud yr hanes wrthym. Yn 1724 neu 1725, daeth Daniel Defoe (meddai ef) i Dreffynnon ar un o'i deithiau drwy'r deyrnas, ond nid oedd Treffynnon yn rhyw bwysig iawn yn ei olwg. Heblaw'r ffynnon, ni welai ef fawr i dynnu ei sylw yno, a disgrifiodd y Ue, bron yn ddirmygus, fel "a little town by the well Hanner can mlynedd wedyn, galwodd Samuel Johnson, y llenor enwog, yno, ond yr oedd y dref wedi tyfu dipyn erbyn hyn. Yr oedd dwy fil o drigolion yn byw yno. Gwelodd ryfeddodau yno heblaw'r ffynnon- melin flawd melin bapur and a tiüìng miU Yn y tilting mill gwelodd beiriannau yn gweithio oddi wrth olwyn ddwr ac yn trin haearn, yn hollti ac yn dyrnu darnau o haearn "as quick as by the hand Ychydig yn is i lawr y dyffryn yr oedd gwaith arall yn gwneud weir. Cafodd Johnson gymaint o hwyl yn un o'r gweithfeydd hyn fel y rhoddodd swllt i'r gweith- wyr. Y mae'n lled sicr y gellid prynu mwy am swllt yn y dyddiau hynny nag yn awr Daeth nifer o ymwelwyr i'r dref yn y blynyddoedd 1794 i 1798, a gwrandawn arnynt hwy am eiliad neu ddau. Dyma