Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARLOESWYR 3. DANIEL LLEUFER THOMAS GAN JOHN THOMAS YMHELL cyn geni mudiad y WEA yn Lloegr yn 1903, yr oedd swyn hudol drwy Gymru gyfan bron wrth feddwl am yr enw Lleufer a gyplysir yn wastad â'i berchen, Daniel Thomas, a defnyddio'i enw bedydd. Yr oedd Lleufer yn wron cenedlaethol yn nhyb miloedd o'i gydwladwyr fel bargyfreithiwr ieuanc wedi dod yn ôl o Rydychen a Lincoln's Inn, Llundain, i agor llygaid y wlad ar gyflwr gwarthus a thruenus ei gweithwyr amaethyddol. Dyna a wnaeth, fel Dirprwywr Cynorthwyol i'r Comisiwn Brenhinol ar Lafur dros Gymru, yn 1892-93. Gwnaeth wasanaeth amhris- iadwy i Gymru drachefn fel Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ar Dir yng Nghymru, 1893-96, ac fel Cadeirydd Panel Cymreig y Comisiwn ar Aflonyddwch Diwydiannol, 1917. Yn Abercynon a Chwm Aberdâr, lle'm ganwyd i, yr oedd enw Lleufer yn adnabyddus i bawb pan oeddwn yn grwt yn yr ysgol. Sweet Berdâr oedd yr ardal Ue bu Lleufer yn treulio'i wyliau gyda theulu neilltuol, ac yno y cafodd hyd i'w wraig. Lleufer sydd wedi croniclo hyn yn un o'i Ddyddiaduron, sydd yn awr yn Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd. Aeth ar ymweliad â'r Hybarch R. J. Jones, gweinidog yr Hen Dy Cwrdd, Trecynon, yn 1888. R.J. oedd olynydd Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi), yr Undod- wr enwog a fu yn y cyffion a'r carchar yng Nghaerfyrddin am ei sêl dros ryddid yn amser cythryblus y Chwyldro Ffrengig. Tebyg mai olrhain tipyn o hanes ei gyndadau yr oedd Lleufer- yr oedd yn berthynas i'r arwr Undodol, gan mai hanner brawd Tomos Glyn Cothi, Daniel Evans, oedd tadcu Esther Evans, mam Lleufer. Arôl ei hendaid y bedyddiwyd Lleufer yn Daniel." Soniodd R.J. wrtho fod teulu yn aelodau o'i eglwys a oedd yn disgyn yn uniongyrchol drwy'r wraig o Domos Glyn Cothi. Merch i'w ferch Mary oedd honno, gwraig weddw o'r enw Jane Gethin. Y mae hi a'i gwr erbyn hyn yn gorwedd gerllaw beddrod ei thaid ym mynwent yr Hen Dy Cwrdd, wrth ymyl tý Mam yn Nhrecynon. Aeth Lleufer gydag R.J. i ymweld â Jane Gethin a syrthiodd mewn cariad â'i merch Mary, a phriododd hi yn 1892 cyn cychwyn ar ei waith a'i deithiau fel Dirprwywr Cynorthwyo dros Gymru.