Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BALED Y COWNT Ar\NALDOS (0V Sbaeneg, y 17 ganrif, yn ôl pob tebyg) GAN J. T. JONES Pwy erioed a brofodd antur Mor rhyfeddol, ar ei hynt, Ag a fu i'r Cownt Arnaldos Fore Dygwyl Ifan gynt ? Gyda'i hebog ar ei arddwrn, Wrthi'n hela 'roedd y gwr, Ac fe ganfu, oddi ar y forlan, Long yn dyfod tros y dwr. Lliain main yw'r hwyliau arni, Sindal yw ei chyrt achlân, Wrth y llyw mae llongwr llawen Sydd yn awr yn canu cân. Dan gyfaredd cân y llongwr, 0 mor llonydd ydyw'r Ui Mud a thangnefeddus hefyd Ydyw'r gwynt o'i hachos hi Pair y gân i bysg yr eigion Esgyn o'r dyfnderoedd du Pair y gân i'r adar, hwythau, Ddisgyn ar yr hwylbren fry Ebe'r Cownt Arnaldos weithion (Clywch yn awr ei lais a'i lef) "Longwr mwyn, rho wybod imi Pa ryw gân yw hon," eb ef. Ebe'r llongwr Ni ddatguddiaf Rin y gân, na'i hystyr hi, Ond i r sawl (pwy bynnag fyddo) A ddêl i forio gyda mi