Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMREOLAETH I GYMRU YN 1890 GAN HUGH MORRIS-JONES VM mis Ebrill 1890, gwahoddodd Cylchgrawn Saesneg, The Westminster Review, nifer o ohebwyr i ddweud eu barn ar fater Ymreolaeth i Gymru. Ac yn eu plith O. M. Edwards a Henry Jones. Yr oedd O.M. yn Rhydychen ar y pryd, yn Gymrawd o Goleg Lincoln. Yr oedd Henry Jones yn Athro ym Mangor. Y lleill a wahoddwyd oedd Osborne Morgan, yr aelod tros Ddwyr- ain Dinbych, Syr E. J. Reed, yr aelod tros Gaerdydd, Beriah Gwynfe Evans ac A. C. Humphreys-Owen. Dyna aelodau'r Seiat, a'r pwnc a roddwyd iddynt oedd Ymreolaeth i Gymru." Amrywiol i'r eithaf, fel y gellid disgwyl, oedd eu hatebion. Ond y mae un cytundeb peridant ynddynt. Er bod pob un yn barod i bledio am fwy o hunanlywodraeth, nid oes yr un ohonynt yn gofyn am Senedd i Gymru. Yn wir, y mae Henry Jones yn mynegi ei farn yn glir am hyn Byddai'r rhan fwyaf o Gymry meddylgar yn anghymer- adwyo unrhyw ddeddfwriaeth gyffrous i gyfeiriad Ymreolaeth, a byddai'n well ganddynt weld eu cydwladwyr yn bwrw'u prentis- iaeth mewn hunanlywodraeth ar y Cynghorau Sir, ac ar gyfuniad, trwy gynrychiolaeth neu ryw ffordd arall, o'r Cynghorau hyn yn gorff llywodraethol canolog â hawliau arbennig wedi eu cyflwyno iddo." Y mae ei gyd-ohebwyr yn ategu hyn, ond yn amrywio yn eu hawgrymiadau. Ar y cyfan, cytunant y dylai Cymru reoli tri pheth, sef Addysg, y Ddiod a Chrefydd. Gellid sylweddoli hynny, meddant, trwy i Brifysgol Cymru gael ei Siartr, rhoddi hawl i'r awdurdodau lleol yng Nghymru i reoli oriau'r tafarnau a'u cau ar y Sul, a datgysylltu'r Eglwys Wladol yng Nghymru. Dywaid O. M. Edwards bethau hallt am yr Eglwys. Eglwys oedd hi, meddai, a wthiwyd ar y Cymry er mwyn eu Seisnigo Gwir achos Cenedlaetholdeb Cymreig ddiweddar, yn ei ag. weddau gwleidyddol, ydyw'r dulliau a ddefnyddiwyd i Seisnigo Cymru. Ceisiodd Llywodraeth Seisnig yn fwriadol orfodi'r Cymry i ddyfod yn bobl Saesneg eu hiaith ac yn aelodau mewn Eglwys sydd, o bob eglwys yn y byd, yr un lleiaf cyfaddas ar eu cyfer Hefyd, gwnaed cynigion parhaus yn ystod y tair canrif ddiweddar i wthio eglwys estron ar bobl y gellir dweud amdanynt mai eu