Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'■ Oni fedrwch arwain Mudiad Ymreolaeth i Sgotland ? Paham na chymerwch ddalen 0 lyfr y Gwyddelod a'r Cymry, yn hytrach na llwytho Ymreolaeth Ysgotaidd drwy ei chysylltu wrth broblem fawr Ffederaliaeth Ymerodrol ? byddai cwyn Ysgotaidd go dda, fel yr Eglwys yng Nghymru, yn foddion i ennill Ymreolaeth i Sgotland y mae fy serch at honno yn fwy nag erioed." Ond y mae'n amlwg nad oedd neb o'r cyfranwyr hyn yn glir iawn ar yr hyn a olygai ymreolaeth. Yr oedd Osborne Morgan yn awchus i sefydlu yr hyn a alwai yn Grand Standing Committee," lle yr ystyrid pob mesur seneddol yn ymwneud â Chymru. Bydd- ai'r Aelodau Seneddol a chynrychiolwyr y Cynghorau Sir arno, ond yr oedd gallu'r fath bwyllgor yn amwys ac aneglur, quasi legislatwe and administratẁe powers (lled-awdurdod i ddeddfu a gweinyddu), meddai Morgan, heb ymgais i ddiffinio'n fanylach. Canolbwyntio y mae'r ysgrifenwyr hyn i gyd yn y pendraw ar rai agweddau o fywyd cymdeithasol-yn bennaf, ar grefydd ac addysg. Ânt mor bell â dweud pe sylweddolid anghenion arbennig Cymru yn y pethau hyn, y byddai'r gri am Ymreolaeth yn darfod. Pe dileid y cwynion arbennig hyn, ni chlywid mwy am senedd i Gymru. Ond ni chywirwyd eu proffwydoliaeth, oblegid fe gaed mesurau arbennig i drin y pethau hyn. Datgysylltwyd yr Eglwys. Sef- ydlwyd Prifysgol. Caewyd y tafarnau ar y Sul yng Nghymru. Trigain mlynedd wedyn, cyfyd eto'r gri am Ymreolaeth yn gryfach nag erioed. Sylwodd Ifor Williams fod sôn am y gog mewn hen farddon- iaeth Gymraeg yn cael ei ddilyn bob amser gan ganu hiraethus. Nid yw hyn yn beth cyffredin mewn ieithoedd eraill, nac mewn barddoniaeth Gymraeg ddiweddarach. Nodyn llon a glyw'r beirdd yng nghanu'r gog. y rhan amlaf. Paham y cysylltaiµ: hen, hen feirdd Cymraeg gân y gog â thristwch ? Am fod y gog, medd Syr Ifor. yn canu mewn hen Gymraeg Ystyr cw mewn hen Gymraeg ydyw "pa 1e ? Pan glywai'r bardd y gog yn canu Pa 1e ? Pa le ? deffroai atgofion hiraethus yn ei feddwl. Ceir peth cyffelyb ym mhenillion Omar Khayyâm yn yr iaith Berseg, ond y sguthan ydyw'r aderyn yno.