Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYFODOL DE-DDWYRAIN ASIA GAN T. HUGHES GRIFFITHS II BETH am ddyfodol gweriniaeth ddemocrataidd yn Ne-Ddwyrain Asia ? O'r Gorllewin y daeth y syniad a'r patrwm gwerinol i'r rhanbarth, ac i'r Gorllewin, yn enwedig tua bryniau uchel adnoddau cyllidol yr Unol Daleithiau, y dyrchafant eu golygon ac oddi yno, ni a obeithiwn, y daw eu cymorth digonol. Y mae'r Unol Daleithiau wedi cyfrannu dau batrwm cymdeithasol ffrwyth- lon ac effeithiol iawn i fywyd y byd cyfoes. 0 fewn ei ffiniau ei hun, dengys Awdurdod Dyffryn Tennessee sut i droi erwau dirifedi o diroedd diffrwyth a dirywiedig yn rhanbarth economaidd effeithiol, ac i adfer bywyd gwledig safonol yn y dyffrynnoedd ac ar y gwastadeddau cylchynol. Hefyd, bu Cynllun Marshall yn batrwm cymdeithasol cydwladol. Beth bynnag a feddyliom am y bwriadau a'r amodau a oedd ynglyn ag ef, y mae'r patrwm ei hun yn dangos ffordd effeithiol i helpu rhanbarth fel Gorllewin Ewrop ar ôl y Rhyfel Mawr i adennill ei nerth economaidd. Y mae Prydain Fawr a Llywodraethau eraill yn y CommonwedUh Prydeinig, sef Awstralia, New Zealand, Canada, India, Pakistan a Ceylon, yn ymwybodol yn fwy nag yn anymwybodol, wedi dilyn ôl troed yr Unol Daleithiau yng Nghynllun Colombo. Lluniwyd hwn er mwyn cynorthwyo De-Ddwyrain Asia i ddat- blygu sustem economaidd fodern a rydd yn ei thro y moddion economaidd i'r Llywodraethau brodorol yn y rhanbarth i sefydlu a chadarnhau a datblygu eu gwladwriaethau annibynnol. Nid oes angen manylu ar y Cynllun hwn oblegid fe'i cyhoeddwyd gan ein Llywodraeth mewn llyfr destlus a rhad. Gwelodd Prydain natur a phwysigrwydd y broblem drefedigaethol yn llawer cliriach ac yn gynt na'r Iseldiroedd neu Ffrainc neu'r Unol Daleithiau. Rhoddodd ryddid i'w threfedigaethau yn Ne-Ddwyrain Asia. Drachefn, y mae Llywodraethau'r Commonwealth (y Gymdelthas Brydeinig) yn cynllunio'r ffordd i ddatblygu bywyd diwydiannol ac amaethyddol y rhanbarth, neu unrhyw wlad a fynnai gydweithio â hwy yn y Cynllun. Bwriedir gwario 1,868 miüwn o bunnau at y gwaith hwn caiff India ddwy ran o dair o'r cyfan at ei hangen ei hun. Gwelsom uchod beth yw prif anghenion India, fel y