Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Comiwnyddiaeth ymhlith y gweithwyr ar y tir. Nid dyna'r ffordd orau i ennill y cenhedloedd brodorol, er bod amcan yr Unol Daleithiau yn ddigon onest. Y polisi gorau a mwyaf gobeithiol o'r cyfan yw eiddo Prydain Fawr yn Ne-Ddwyrain Asia. Cydnebydd Prydain o'r diwedd hawliau'r cenhedloedd brodorol i ryddid cenedlaethol a gwleid- yddol. Hefyd, trwy gynllunio moddion i ddatblygu bywyd amaethyddol a diwydiannol y gwledydd, fel y gwneir yng Nghyn- llun Colombo, crea Prydain y gobaith a'r hyder yn y brodorion am adeiladu'r gwladwriaethau ar sail gweriniaeth iach. Gresyn nad oes ym meddiant Prydain yr adnoddau cyllidol i gario'r gwaith i ben. Os llwydda hi i ennill cydweithrediad yr Unol Daleithiau i ddal ar y llwybrau hyn, ac o dan nawdd y Cenhedloedd Unedig, fe leddir Comiwnyddiaeth yn y gwraidd. Ond beth am arweinwyr a chenhedloedd y rhanbarth eu hunain? Mynnant eu Ue yn y byd. Os ydynt yn dlotach na'r Gorllewin, y maent yn benderfynol ar yr un peth hanfodol, sef yw hwnnw bod rhagfarnau lliw a chred tuag at frodorion gwledydd Asia yn hen ffasiwn erbyn hyn, a rhaid eu derbyn yn economaidd a gwleidyddol, ac yn gymdeithasol hefyd, ar lefel hollol gyfartal a'r gwerinoedd gorllewinol. Er maint a rhif yr anawsterau, gwelaf ym mholisi trefedig- aethol a chydwladol Prydain Fawr wawr gobaith am ddyfodol democrataidd rhydd i Dde-Ddwyrain Asia. Yr oedd gan William Temple, Archesgob Caergaint, a Chad- eirydd y WEA cyn hynny, a fu farw yn 1944, gorff mawr, trwm. Adroddir stori amdano unwaith yn dringo un o fynyddoedd yr Alpau yng nghwmni nifer o gyfeillion. Wedi llwyddo, drwy ddirfawr ludded, i gario'r pwysau mawr i ben y mynydd, sychodd y chwys oddi ar ei wyneb, a dywedodd, Wel, diolch byth nad ydw-i ddim yn credu yn atgyfodiad y corff