Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGU CYMRAEG AR Y RADIO GAN STEPHEN J. WILLIAMS WEDI derbyn cais y golygydd am ysgrif ar y pwnc hwn cofiais am y diflastod a brofais flynyddoedd lawer yn ôl yn yr ysgol fach (fel y gelwid dosbarthiadau'r babanod) o ddeall ei bod yn rhaid dewis rhwng learn a teach wrth gyfieithu dysgu i'r Saesneg. Ni ddywedodd wrthyf a ddymunai imi briodoli'r naill ystyr yn hytrach a'r llall i'r gair ai peidio, ac felly, gan ei fod yn air bach mor gyffredin, caiff gyflawni'i swydd ddyblyg yn ddiwahaniaeth. Fe ddysgodd pawb ohonom ei famiaith drwy glywed a chlywed ei siarad hi a graddol ddysgu dynwared ei seiniau. Am gyfnod o ychydig flynyddoedd dibynnai'n haddysg ynddi ar glywed ei sιvıı a cheisio llefaru ynddi. Yna, os buom mor ffodus â chael ein gwersi ysgol cyntaf yn ein mamiaith (a phrin y syrthiodd hynny i ran neb ohonom sy dros 40 oed, onid aethom i'r Ysgol Sul cyn dechrau mynd i'r ysgol-bob-dydd) dechreuodd hi hefyd droi'n iaith y mynegid ei seiniau drwy sumbolau gweledig. Gwaith lled anodd ac araf oedd ymgynefino â geiriau ac ymadroddion syml yn eu ffurf ysgrifenedig. Yr oedd eu cyflawnder a'u cywirdeb yn eu dieithrio; Cyn deall brawddeg fel Mae"r tad/ yn/ eis- tedd bu raid ei throi yn y meddwl yn rhywbeth tebyg i Mar- tadnis(h)te." Yn wir golygai dysgu darllen ac ysgrifennu ddysgu iaith newydd, ac yr oedd y dysgu bwriadol hwn yn wahanol mewn llawer o bethau i'r clywed a'r dynwared greddfol a fu o'i flaen. Pan fo pobl yn dysgu iaith arall (neu iaith estron) fe wnânt hynny weithiau megis yn ddiarwybod trwy fyw gyda theulu neu droi ymhlith rhai a sieryd yr iaith honno'n gyson. Dyna a ddigwyddodd i lawer o estroniaid bychain a ddaeth i Gymru yn amser y rhyfel diwaethaf, ac i ambell estron o wr neu wraig a ddaeth yn aelod o deulu o Gymry ac y tyfodd y Gymraeg yn iaith briod iddo neu iddi. O ben i ben hefyd y dysgir Cymraeg llafar gan y Llydawiaid a ddaw i ddrysau'r tai i gynnig eu winwns mor tsiêp." Eithr am y mwyafrif o bobl sy'n mynd ati i ddysgu Cymraeg, yr iaith safonol yw eu prif ddiddordeb, ac at lawlyfrau s'n trin ei gramadeg y trônt gyntaf fel rheol; Adnabûm rai nad oes ganddynt y syniad lleiaf am na seiniau na