Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS V.MAE'N hawdd camarwain pobl â ffigurau anghyflawn. Gallwn ddweud, er enghraifft, fod gwerthiant LLEUFER yng Nghanada wedi cynyddu gant y cant eleni. Ardderchog, onid e ? Ond pe dywedwn yr un gwirionedd fel hyn, sef ein bod yn gwerthu dau gopi yno yn lle un, nid ymddangosai'n llawn mor ysgubol. Trys- orydd Cymdeithas Dewi Sant, Edmonton, oedd ein cwsmer cyntaf, a Llywydd y Gymdeithas anrhydeddus honno ydyw'r ail. Croes- awn Gymry gwlatgar Cymdeithas Dewi Sant Edmonton yn ddar- llenwyr cyson i LLEUFER; ni chyst ond un ddoler y flwyddyn. Trwy'r nodyn bach hwn anfonwn ein cyfarchiadau cynnes atynt. Bu'r misoedd diwaethaf hyn yn rhai prysur iawn-dirwyn un flwyddyn i ben, a darparu i ddechrau un arall. Llwyddais i ymweld â nifer o Ganghennau, a chael cyfle i drafod y gwaith gyda hwynt. Cangen Dolgellau yn drefnus ac yn weithgar iawn gydag Ysgrifennydd newydd cefais fynd i ddau gyfarfod o'r aelodau. Wedyn, gwahoddwyd fi i Gangen Isaled, ar hwyrnos brat. Cwmnïaeth gynnes, trafodaeth frwd, y nos yn dyfod, a dim lamp yn yr ystafell i'w goleuo. Ond pa wahaniaeth gan bobl cefn gwlad ? Yr oedd ganddynt ddigon o oleuni meddyliol i weled ac i drafod eu problemau, serch na allent weled ar draws yr ystafell. Mynd wedyn i Gwm-y-Glo, a Thrysorydd y Gangen yno yn adrodd bod pob aelod o Ddosbarth Llanrug yn aelod unigol o'r Gangen, ac wedi tanysgrifio ei bumswllt. Ardderchog. Dos- barth Llanllechid yw'r unig ddosbarth arall y gwn i amdano sydd wedi gwneud yn gyffelyb. Carwn roddi hanes pob Cangen y bûm yn ymweld â hi, ond rhaid bodloni ar un neu ddwy. Cangen y Bala a Phenllyn wedi adfywio o ddifri eleni ac wedi gwahodd Cytarfod Blynyddol y Rhanbarth yno. Cangen Dyffryn Ceiriog wedi dal ei thir am fiwyddyn, ac yn ymwroli at y tymor nesaf. Cangen Dyffryn Clwyd hithau yn gosod ei sylfeini i lawr yn gadarn; Bûm mewn cyfarfod brwdfrydig iawn o Gangen Uwch Dwyryd. Efallai mai plentyn Cangen y Blaenau ydoedd flwyddyn yn ôl erbyn hyn y mae'n debyg iawn i chwaer iddi, ac yn cerdded yn rymus ar ei thraed ei hun. Myned i Gyfarfod Blynyddol Cangen y Blaenau, sydd i mi fel mynd adref am dro. Dyma Ue cefais y fraint o ddyfod i ad.