Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY CYNHALIWYD ein Cynhadledd Flynyddol eleni yng Nghaer- dydd ar Orffennaf 21. Ynddi cyflwynwyd ein Hadroddiad Blynyddol am y bedwaredd flwyddyn a deugain. Gorchwyl anodd oedd ei roddi wrth ei gilydd, gan fod rhai o'r Canghennau yn hir- ymarhous yn anfon.eu Hadroddiadau i mewn i'r swyddfa, ac ni bydd Adroddiad y Rhanbarth yn gwbl barod i'w argraffu nes cael pob un o'r adroddiadau lleol i law yn gryno. Yn fras, gallwn roddi pictiwr gweddol gywir o waith y tymor 1950-51 fel y canlyn Dosbarthiadau.-Bu'r Rhanbarth a'i Ganghennau yn gyírifol am drefnu a thalu costau 140 dosbarth, 20 ohonynt yn Ddos- barthiadau Blwyddyn, 90 yn Ddosbarthiadau Term, a 30 o Gyrsiau llai ffurfiol eu natur. Nid yw'r cyfrifon am y Dosbarthiadau Tiwtorial a'r Dosbarthiadau Sesiwn wedi dyfod i law eto. Myfyrwyr.-4,056 oedd cyfanswm y myfyrwyr a fu'n ael- odau o'n Dosbarthiadau yn ystod y tymor. Myfyrwyr Blwyddyn a Therminal oedd 1,839 ohonynt, ac yr oedd dros ddwy fil yn aelodau o Undebau Llafur. Pynciau. — Pynciau crefyddol oedd ar ben y rhestr, gyda 21 o ddosbarthiadau yna Hanes (cymdeithasol, economig a Chymreig), 18, ac yn nesaf Athroniaeth, 11. Yr oedd pum dos- barth yn astudio Llenyddiaeth Gymraeg. Cymdeithasau Cysylltiedig.-144 ydyw rhif y Cymdeithasau Cysylltiedig, heb gyfrif canghennau o Undebau Llafur a chym- deithasau eraill sydd wedi ymgysylltu â'n Canghennau lleol. Dyma'r Cymdeithasau a ymgysylltodd â'r Rhanbarth Canghennau o Undebau Llafur 77 Cyngor Llafur 1 Cymdeithasau Cydweithredol 11 Clybiau a Sefydliadau'r Gweithwyr 26 Neuaddau'r Gweithwyr 13 Amrywiol 5 Grwpiau Myfyrwyr 11 144