Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GOLEG HARLECH GAN I. DAN HARRY BLWYDDYN a nodweddwyd gan fywyd cyfoethog ac amrywiol oedd y flwyddyn ddiwaethaf yn hanes Coleg Harlech. Y mae hyn wrth gwrs yn hollol yn ôl traddodiad y coleg, a'r gyfrinach tu ôl iddo yw bod y Coleg yn parhau i ddenu myfyrwyr o bellter daear o flwyddyn i flwyddyn, a'r rhain yn cyfrannu yn eu ffordd i gyfoethogi bywyd eu cydfyfyrwyr. Ymhlith y trigain a phedwar o fyfyrwyr a fu yma yn ystod y tymor, yr oedd cynrychiolwyr o Sweden, Denmarc, yr Almaen, Vienna, Awstria, yr Iseldiroedd, Ffrainc, Sbaen, Iraq, yn ogystal â myfyrwyr o Gymru a Lloegr. Pedwar a deugain o fechgyn a gofrestrwyd, a thrist yw gorfod cofnodi unwaith eto mai dim ond tair o Gymry oedd ymhlith y merched. Dylid dweud ar unwaith nad diffyg cyhoeddusrwydd yw'r rheswm am yr ymateb siomedig ar ran merched Cymru. Yn ystod tymor y Gaeaf, rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 1950, danfonwyd manylion o gyrsiau ac ysgoloriaethau Coleg Harlech i bob dosbarth allanol yng Nghymru, ac felly gellir disgwyl bod y merched sy'n aelodau o'r dosbarthiadau yn gwybod amdanynt. Teimlir hefyd nad trwy ddarparu cyrsiau megis gwnïo, coginio a chyffelyb bynciau, y gellir denu mwy o ferched ein gwlad i Goleg Harlech. Gwneir darpariaeth hollol ddigonol yn y cyfeiriad hwn gan y Pwyllgorau Addysg, a'n problem ni ydyw ceisio creu diddordeb yn y cyrsiau ehangach yn hytrach na chystadlu â'r cyrsiau technegol a ddarperir yn ystod misoedd y gaeaf ym mhentrefi Cymru. Tybed, a oes gan ein darllenwyr awgrymiadau i'w cyflwyno inni sut y gellid datrys y broblem ? Cadwyd cysylltiad agos rhyngom a'r Brifysgol yn ystod y tymor, a diolchwn o galon i'r Athrawon a'r darlithwyr a ddaeth. atom o bryd i'w gilydd i ddarlithio i'n myfyrwyr. Yn eu plith yr oedd Dr. Lyn Evans, Caerdydd, Mr. Spilsbury, Josiah Davies, Sydney Herbert, Emrys Bowen, yr Athro Treharne, Ieuan John, o Aberystwyth, a T. W. Thomas o Goleg Abertawe. Gwerth- fawrogwyd eu gwasanaeth yn fawr iawn gan bawb yn y Coleg, a theimlwn mai amheuthun o beth ydyw'r ymweliadau hyn ar ran ein cyfeillion yng Ngholegau'r Brifysgol.