Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Mawl yr Oesoedd, Casgliad o Donau ac Emynau, a wnaethpwyd gan Ifor L. Evans a David de Lloyd. Gwasg y Brifysgol. 15/ Dysgir dwy ffaith bwysig gan ysgolheigion mewn anthropoleg a hanes crefyddau, sef (a) bod dyn er yn fore yn ymwybodol o deimladau crefyddol, (b) ac iddo wneuthur defnydd o gân a cherdd i roddi mynegiant ohonynt. Yn nefodau crefyddol y dyn cyntefig, anaeddfed ac elfennol oedd y gân a'r gerdd, ond amlygir trwyddynt stad o barchedig- aeth a defosiwn a brawf fod yr ysbryd yn gywir ac yn adgyn- hyrchu'r teimladau yn y gân, ac er amrywio o'r mawl mewn ffurf ac arddull mewn gwahanol gyfnodau, erys yn etifeddiaeth gyfoethog i'r eglwys. Prif amcan Mawl yr Oesoedd ydyw dangos o'r newydd i'r Cymro Cymraeg ogoniant etifeddiaeth emynyddiaeth y Gor- llewin, a'i datblygiad o'r bedwaredd ganrif hyd y ganrif ddi- waethaf. Gwneir hynny trwy roddi cant o emynau a chant o donau yn enghreifftiau o'r mawl mewn gwahanol gyfnodau. Cyfieithwyd yr emynau, neu eu haralleirio, gan y Prifathro Ifor L. Evans, o'r Lladin, yr Almaeneg, y Ffrangeg a'r Saesneg, gydag emynau Cymraeg o waith prif emynwyr Cymru. Trefnwyd a chynganeddwyd y tonau gan David de Lloyd. Y mae amryw o'r tonau wedi eu trefnu â'r alaw yn y Tenor, a chynganeddiad syml iddynt adwaenir y trefniant hwn dan yr enw Fauxbourdon. Yn y Rhagymadrodd ymdrinnir â'r Emynau a'r Tonau o dan bum adran,-I. Emynau Lladin; II. Emynau a Thonau o'r Almaen III. Tonau Genefa IV. Tonau Saesneg ac Albanaidd V. Tonau Cymraeg a cheir Taflen o gynnwys y Casgliad. Yr Adran Ladin. Ymae pedwar o'r deuddeg emyn ynyr adran hon o waith Emrys Sant, Esgob Milan, a diwygiwr caniadaeth Eglwysig yn y bedwaredd ganrif. Un emyn gan Grigor Fawr, Esgob Rhufain, sylfaenydd y Gân Blaen a sefydlydd Ysgolion Canu Eglwysig yn y chweched ganrif. Ceir pum emyn arall, a chyfieithiadau gan Rowlant Fychan, ac emyn i Ddewi Sant o gyfieithiad y Parch. Silas Harris. Cysylltir â'r emynau chwech o donau y Gân Blaen, pedair o donau cynnar yr Almaen, a thair o waith y golygydd, Ifor L. Evans.