Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wales in Maps, gan Margaret Davies. Gwasg y Brifysgol. 7 /6. Dyma lyfr ar Gymru hollol newydd ei safbwynt a'i ffurf. Fel y gwelir oddi wrth ei deitl, ymgais ydyw i ddisgrifio a de- hongli bywyd Cymru yng ngoleuni'r ddaearyddiaeth newydd sydd mor boblogaidd yn rhai o'r colegau ar hyn o bryd. Rhaid oedd wrth wybodaeth eang, gwelediad clir, a llawer o lafur i gynhyrchu'r llyfr hwn, ond nid oes amheuaeth na bu'r anturiaeth yn llwyddiant. Y mae'n amhrisiadwy o werthfawr pe na bai ond fel cyfrwng i agor ein llygaid i bosibiliadau gwych y maes newydd yma o astudiaeth i'r WEA. 0 bosibl y ceir cyn bo hir gymaint o Ddosbarthiadau Pobl mewn Oed mewn daearyddiaeth ag a geir ar hyn o bryd mewn hanes a llenyddiaeth. Cyfres o fapiau diddorol a geir yn y llyfr-map ar un tudalen a nodiadau esboniadol ar y tudalen gyferbyn. Ceir yn agos i gant o fapiau, a cheir map o Gymru gyfan ddwy ar hugain o weithiau. Mewn geiriau eraill, dangosir bywyd Cymru o ddwy ar hugain o wahanol safbwyntiau, a gellid gwneuthur bron bob un o'r mapiau hyn yn sylfaen i ddarlith a thrafodaeth fuddiol a diddorol mewn dosbarth. Wrth reswm, nid yw'r mapiau a'r nodiadau ynddynt eu hunain yn ddigon i'r pwrpas hwn, ond, fel y dywaid yr awdur, Y mae'n gysur i'r rhai sydd am wybod- aeth helaethach wybod bod llyfrau cyfan wedi eu hysgrifennu ar bob un o'r pynciau pwysicaf yr ymdrinnir â hwy. Nid oes angen pwysleisio gwerth map fel cyfrwng hyfforddiant yn yr oes oleuedig hon, ac nid oes angen dadlau chwaith, erbyn hyn, dros bwysigrwydd yr elfennau daearyddol yn natblygiad hanes a bywyd unrhyw wlad. Pe byddai unrhyw amheuaeth ym meddwl rhywun am werth astudiaeth ddaearyddol fanwl o wledydd y byd, byddai Wales in Maps yn ateb digonol iddo, o leiaf, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Gwendid mwyaf y llyír yw na cheir ynddo fap mawr o Gymru. Yn wir, buasai'n well i'r mapiau i gyd fod yn llawer mwy eu maint, oherwydd mwyaf yn y byd y bo map cywiraf yn y byd iydd yr wybodaeth y gellir ei chyfleu drwyddo. Ni ellir lleoli llawer o'r ardaloedd y sonnir amdanynt yn y llyfr heb gymorth map o Gymru, map mawr manwl y gellid ei blygu a'i agor allan. Er enghraifft, ar t. 11 sonnir am y Berwyn, Preseli, Mynydd Parys, etc., ond ni ddangosir hwynt ar y map gyferbyn. O'r ochr arall, ceir enwau lleoedd ar y map hwnnw nad oes a wnelont