Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR CYF. VIII GWANWYN 1952 NODIADAU'R GOLYGYDD "T)YWAID y Llywodraeth wrthym y bydd yn rhaid cynilo llawer iawn ar gostau'r wlad hon yn y misoeddnesaf, ac y mae'n siwr y bydd pawb synhwyrol yn ei chefnogi mewn cynilo He bynnag y gellir er mwyn i'r wlad allu talu ei ffordd. Olid rhaid inni gynilo yn y pethau hawsaf eu hepgor. Teimlir llawer o bryder heddiw rhag ofn i'r Llywodraeth gynilo ar Addysg yn hytrach nag ar bethau llai eu pwys. Eisoes cawsom un enghraifft ddigon anffodus o'r cynilo hwn. Anfonodd y Weinyddiaeth Addysg Orchymyn i holl Awdurdodau Addysg y deyrnas i ostwng swllt y bunt yn yr holl arian a wariant-gostyngiad difrifol iawn. Golyga'r Gorchymyn hwn un o ddau beth, neu efallai gyfuniad o'r ddau. Un ai y mae'r Weinyddiaeth yn credu bod yr Awdur- dodau'n gwastraffu swllt o bob punt a wariant yn awr. a bod yn bosibl iddynt roddi cystal gwasanaeth am lai o arian neu ynteu y mae'n gorchymyn iddynt ostwng safonau addysg heb ddweud wrthynt ymha fodd. Diamau fod rhywfaint o arian yn cael eu gwario'n ofer, gan mai dynion ffaeledig sy'n eu gwario, ond y mae'n groes i bob rheswm gredu y gall pob Awdurdod Addysg arbed gwastraff o swllt y bunt ar ei holl dreuliau. Rhaid felly fydd gostwng safonau addysg, a'r Awdurdod lleol ei hun a'fydd yn penderfynu pa ostyngiad a wneir-ai dosbarthiadau mwy, ai cinio salach, ai llai o gerbydau i gludo'r plant, ai beth. Yr Awdurdodau lleol, mewn gair, ac nid y Weinyddiaeth, a fydd yn llunio polisi Addysg y wlad, a phob un â'i bolisi ei hun. Rwy'n ysgrifennu cyn i'r Senedd ail-agor ar ôl y Nadolig, a gobeithio y ceir gwell trefn cyn y bydd y geiriau hyn mewn argraff. Ond y mae'r niwed wedi ei wneud am eleni. YNG NGHYMRÜ RHIF 1