Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BOED ANWYBOD YN OBAITH ROBERT WILLIAMS PARRY YN YR OES ATOMIG Gan DAVIES ABERPENNAR i. Breuddwyd y Beirniad WELE baragraff o ddyddlyfr Davies Aberpennar dan y dyddiad 17 Ionawr 1952 Breuddwyd rhyfedd iawn a gefais neithiwr ar ôl darllen, am y milfed tro, Yr Haf a Cherddi Eraill. Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn fy nghwrcwd yn y cwtan-dan-stâr. Hen lwynog blinedig oedd fy unig gydymaith, a'i ddwy sefydlog fflam yn Uewyrchu'n loyw yn y tywyllwch. Ceisiais ymgomio ag ef, ond braidd yn unochrog oedd y sgwrs. Yn sydyn daeth rhyw gryndod ac ysictod mawr drosof a thros bopeth, a'r hen fyd yn drobwll i gyd. Ond trwy'r cyfan rywsut yr oedd y ddwy sefydlog fflam gyda mi. Pan ddaeth popeth i drefn eto, yr oedd y ddwy sefydlog fflam yn perthyn nid i lwynog ond i Riain yr Haf, a merch nefolaidd oedd hi. A dyna garwriaeth a gawsom. Gwyddwn mai Rhiain yr Haf oedd hi am ei bod yn fy ngalw i y Macwy o hyd ac o hyd. Ond carwriaeth lenyddol dros ben oedd hi, hefyd. Trafod barddoniaeth Williams Parry a wnaethom. Nid wyf yn cofio'r manylion ond y mae gennyf gof sicr inni drafod nifer o gerddi nad wyf i erioed wedi eu gweld mewn du a gwyn, yn ogystal â chryn nifer o'r cerddi yr wyf yn gyfarwydd â hwy. Adroddodd hi lawer o'r cerddi gyda rhyw islais tra swynol, a gwneuthum sylwadau ar rai ohonynt. Dyna'r cyfan a fu rhyngom -ymddiddan nefolaidd o felys. Dihunais tua chwech a methu cysgu na gorwedd yn llonydd wedyn. Deuthum i lawr i dorri min yr oerfel ar ran y teulu i gyd. A phrudd fu'r deffro heddyw, A gweld y wag aelwyd wyw Heb farwor, ac agoryd Dôr y bwth ar wacter byd."