Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYN CERRIG BACH GAN ALICE WILLIAMS AR lannau Menai safai milwyr Rhufeinig cyhyrog a'u llurigau pres, eu gwaywffyn a'u tarianau, a phlu copaon eu helm yn dawnsio yn yr awel ysgafn. Syllent ar Fôn syllent yn graff ar yr olygfa ryfeddaf, y mae'n debyg, a welodd neb ar Ynys Môn erioed. Er i hyn ddigwydd tua'r flwyddyn 60 Oed Crist, eto, yn ffodus, erys disgrifiad o'r olygfa, a roddwyd gan hanesydd Rhuf- einig o'r cyfnod hwnnw, Tacitus, pan groniclodd hanes ymgyrch byddinoedd Rhufain ym Mhrydain. Dyma a welai'r milwyr, a dyma gyfieithiad o eiriau Tacitus Ar y lan arall safai'r gelyn yn fyddin gref o wŷr arfog, ac yn ôl a blaen rhwng eu rhengoedd, gan chwifio ffaglau, rhuthrai merched mewn gwisgoedd duon fel gwiddonod a'u gwallt yn rhydd yn y gwynt. O amgylch, estynnai'r Derwyddon eu dwylo tua'r nef gan lefain gweddiau erchyll. Dychrynwyd ein milwyr gymaint wrth weled yr olygfa ddieithr fel na allent symud na llaw na throed, ond sefyll fel pe baent wedi eu parlysu, heb allu cysgodi rhag' clwyfau. Yna, wedi eu hannog gan eu cadfridog i beidio â llwfrhau o flaen twr o ferchetos gwallgof, symudasant ymlaen gan fedi'r gelyn i'r llawr a'u llosgi yn fflamau eu ffaglau eu hunain. Yna gosodwyd gwarchodlu ar y brodorion, a distryw- wyd y llennyrch cysegredig lle noddid ofergoelion annynol. Yn wir, arferai'r barbariaid hyn ei hystyried yn ddyletswydd arnynt dywallt gwaed carcharorion ar eu hallorau, ac ymofyn cyngor y duwiau trwy ymysgaroedd dynol." Gyda'r geiriau hyn y tyr gwawr hanes ar Fôn am y tro cyntaf, ac y maent yn eiriau tra phwysig gan mai eiddo hanesydd cyfoes ydynt, un y mae'n debyg a glywodd yr hanes o enau un o'r milwyr Rhufeinig eu hunain. Y mae hefyd yn ddarlun byw o'r hyn a welid ym Môn ar ddiwedd y Cyfnod Cyn-hanes. Gwelid yno Dderwyddon a merched yn offeiriaid iddynt yn gwasanaethu wrth allorau mewn llennyrch derw-goediog ar yr allorau offrym- ent, ymysg pethau eraill, waed carcharorion fel rhan o'u dylet- swydd grefyddol. Gwelid yno hefyd wyr arfog a allai ymgasglu ar fyr rybudd a ffurfio byddin. Y mae'n rhaid, felly, fod ym Môn y pryd hwnnw gyfundrefn gymdeithasol bur ddatblygedig, ac y mae lle i gredu mai yn nwylo'r Derwyddon yr oedd y llywodraeth,